blog

GWIR ddarlun o fywyd Gofalwr Maeth - Pythefnos ym mywyd gofalwyr maeth (yn eu geiriau eu hunain)

Cofnodwyd: Friday 10th September 2021
Blog i Mewn: Blogs

A ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth mae gofalwr maeth yn ei wneud ar ddiwrnod arferol? Beth fyddai pythefnos arferol i ofalwr maeth; o amser mynd i’r ysgol i amser gwely.

Yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth hwn, mae 7 gofalwr maeth o Sir y Fflint wedi rhannu eu profiadau i roi cipolwg i ni o 14 diwrnod ym mywyd gofalwr maeth. 

Dydd Llun

“Mae arni hi eisiau mynd i’r ysgol yn droednoeth”

Mae’n fore dydd Llun ac mae’n ddiwrnod ysgol arferol, ond heddiw, mae arni hi eisiau mynd i’r ysgol yn droednoeth ac yn gwrthod rhoi ei hesgidiau ymlaen. Mae hi’n eistedd gyda’i breichiau wedi’u croesi ar waelod y grisiau. Rwy’n cadw fy hun yn brysur drwy ddiffodd y teledu (i wneud yr ystafell mor ddiflas â phosibl) gan ei hannog i roi ei hesgidiau ymlaen.

Bum munud yn ddiweddarach, mae hi’n dechrau strancio, felly rwy’n ceisio aros yn dawel ac osgoi gwylltio gan y byddai hynny’n ofer. Ar ôl llawer o anogaeth a pherswâd, rwy’n penderfynu gadael yr ystafell. Rwy’n gwybod nad yw’n syniad da mynd i ffrae. Mae plant yn ei chael hi’n anodd iawn ildio. Mae’n rhaid iddyn nhw wneud y penderfyniad.

Mae hi o’r diwedd wedi tawelu, ond mae hi’n dal i wrthod, mae’n amser newid fy nhactegau. Derbyniais nad oedd arni hi eisiau rhoi ei hesgidiau ymlaen, ond eglurais na allwn ni fynd allan yn droednoeth gan ei bod hi’n wlyb a rhag ofn iddi anafu ei throed. Byddai’n rhaid iddi fethu’r ysgol ac roedd hynny’n siomedig iawn gan ei bod hi’n ddiwrnod Addysg Gorfforol, sef ei hoff wers. Byddai ei ffrindiau’n ei cholli hi. Roedd y dosbarth hefyd yn gorffen eu prosiect ar y diwrnod hwnnw, a byddai hi’n methu hynny hefyd!!
Rhoddais ychydig funudau iddi feddwl, ac yna mi es yn ôl i’r gegin. Ymhen dim, rhoddais fy esgidiau ymlaen. Pan wnes i droi’n ôl, roedd hi’n sefyll y tu ôl i mi, wedi rhoi ei hesgidiau ymlaen. Rhoddais ganmoliaeth iddi ac i ffwrdd â ni.

 

Dydd Mawrth

“Wel os oes rhaid i mi fynd, i sawl siop fyddwn ni’n mynd?”

Heddiw, mae arnaf angen mynd i siopa ar ôl ysgol. Mae hi’n dweud “Wel os oes rhaid i mi fynd, i sawl siop fyddwn ni’n mynd?” Rydym yn tueddu i fynd ychydig yn hwyrach, ar ôl iddi dawelu ychydig, pan nad oes gymaint o oleuadau llachar, sŵn a phobl. “Tair siop” meddais, “ac mi gei di ddewis i ba un fyddwn ni’n mynd yn gyntaf. Mae arnaf angen hyn, hyn a hyn.” Llwyddom i fynd i 2 siop allan o 3, nid oedd arni hi eisiau mynd i’r trydydd felly penderfynom adael hynny at eto. Dydi dau allan o dri ddim yn ddrwg.

 

Dydd Mercher

“mynd â’r ci allan a llenwi’r dyddiadur”

Ar ôl danfon y plant i’r ysgol, mae’n amser glanhau, mynd â’r ci allan, llenwi’r dyddiadur, gwneud ychydig o waith papur ac ateb negeseuon e-bost. Mae arnaf angen trefnu apwyntiad gyda’m gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol i gael sgwrs am sut mae pethau’n mynd.

Nid yw bob diwrnod yn gyffrous.

 

Dydd Iau

“gwrando gydag un glust ac edrych yn brysur”

Heddiw, mae gan y ferch yr wyf yn gofalu amdani alwad cyswllt gyda’i theulu. Rwyf bob amser yn anfon neges at y teulu yn gyntaf i sicrhau fod pawb ar gael. Rwy’n ceisio gadael iddi hi sgwrsio, ond roeddwn i’n gweld ei bod hi’n edrych yn ddigalon ac wedi diflasu ar Zoom ac nad oedd hi’n gwybod beth i’w ddweud. Rhoddais ychydig o syniadau iddi, ond ceisiais gadw allan o’r sgwrs, gan wrando gydag un glust ac edrych yn brysur. Pan ddaeth yr alwad i ben, rhoddais ychydig o anogaeth iddi gan ddweud pa mor hyfryd oedd siarad â’i brodyr a’i chwiorydd.

 

Dydd Gwener

“Y lle iawn iddi gael gwneud ei marc”

Cyfarfod pwysig heddiw. Rydym yn trafod symud ysgol. Nid yn unig mae’r ferch ifanc hon yn gorffen yn yr ysgol gynradd ac yn symud i’r ysgol uwchradd, fel ei chyd-ddisgyblion, ond mae hi hefyd yn symud at ofalwr maeth newydd, sef fi. Mae hi’n cael dechrau o’r newydd ac yn dod i fyw â mi yn hirdymor, nes y bydd hi’n o leiaf 18 oed. Rwyf eisoes wedi ei chyfarfod, ac wedi dod i’w hadnabod hi ac yn teimlo y byddwn yn gweithio’n dda gyda’n gilydd.

Mae gennym alwad fideo gyda phawb i drafod yr opsiynau o ran ysgolion. Mae gweithiwr cymdeithasol y ferch, fy ngoruchwyliwr a’r cydlynydd addysg sy’n gyfrifol am blant sy’n derbyn gofal yn yr ysgolion lleol yn mynychu’r cyfarfod. Mae pob un ohonynt yn gweithio i’r awdurdod lleol yr wyf yn maethu â nhw. Rwy’n teimlo braidd yn bryderus am y penderfyniad, ond fi sy’n cynrychioli llais y plentyn gan mai fi sy’n ei hadnabod orau.

Mae pawb yn rhannu eu barn am yr opsiynau o ran ysgolion uwchradd; un lleol ac un sydd ychydig ymhellach. Byddai’n rhaid iddi gael tacsi, ac roeddwn i’n teimlo y byddai hynny’n gwneud iddi sefyll allan. Nid yr ysgol honno oedd y lle iawn iddi gael gwneud ei marc yn fy marn i. Mae hi’n aros gyda mi yn hirdymor, byddai’n braf iddi ffurfio cysylltiadau yn ei hardal leol. Mae’r goruchwyliwr o’r un farn â minnau, ac rwy’n teimlo ei bod yn gwrando arnaf. Roedd arnom ni eisiau gwneud pethau mor naturiol a hawdd â phosibl iddi o’r dechrau, felly mae hi’n mynd i’r ysgol uwchradd leol, ffantastig.

 

 

Dydd Sadwrn

“Potel gyfan o beraroglydd i lanhau’r llawr”

Roedd fy mhlentyn maeth wedi cael ei esgeuluso ac yn fudur iawn pan ddechreuodd o dderbyn gofal. Mae o wrth ei fodd â’i ddillad glân a dywedodd wrth ei weithiwr cymdeithasol ei fod yn hoffi bod yma gan ei bod yn lân yma (roedd hyn ar ddiwrnod da).

Pan ddaeth i fyw gyda mi i ddechrau, sylwais fy mod yn defnyddio llawer iawn o sebon a siampŵ yn ystod amser bath. Roeddwn yn beio fy mhartner a fyntiau’n mynnu mai nid ef oedd ar fai.

Un noson, mi es i’w nôl o allan o’r bath ac roedd y dŵr yn wyn. Roedd o wedi tywallt botel gyfan o sebon llyfnu yn y bath. Gofynnais iddo pam ei fod o wedi gwneud hynny, a dywedodd ei fod yn glanhau.

Y diwrnod canlynol, mi es i’r toiled i lawr y grisiau, ac roedd y lle’n drewi o bersawr ac roedd y llawr yn wlyb. Roedd wedi defnyddio potel gyfan o beraroglydd a phapur toiled i ‘lanhau’ y toiled a’r llawr.

Roeddwn yn sylwi nad oedd o’n bod yn fachgen drwg, roedd arno eisiau i bopeth fod yn lân. Bellach, os yw’n cael yr ysfa i lanhau, mae’n dod i ofyn i mi am dasg glanhau, ac rwyf bob amser yn hapus i glywed fel y gallwch chi ddychmygu. Rwy’n gadael iddo olchi llestri ac yn rhoi cadach iddo olchi’r cypyrddau yn y gegin. Rwyf hefyd wedi prynu ardal chwarae dŵr ar gyfer yr ardd ac rwy’n rhoi hylif golchi yno er mwyn iddo gael golchi ei deganau. Mae’r broblem wedi’i datrys.

 

 

Dydd Sul

“cacen lemwn hyfryd yn y bin?!”

Pan ddechreuais ofalu am y plant yr wyf yn eu maethu ar hyn o bryd, yn yr un modd â nifer o blant, roedd ganddynt restr o fwydydd y maent yn eu hoffi ac nad ydynt yn eu hoffi. Disgrifiodd y plant beth maent yn hoffi ei fwyta. Roedd eu rhestr yn cynnwys ffrwythau, llysiau a llawer o brydau iach. Felly mi es i’r archfarchnad i nôl eu hoff fwydydd, eu paratoi a’u gweini.

Ond roedd y platiau’n dod yn ôl â’r bwyd heb ei gyffwrdd bron? Pobais gacen lemwn hyfryd (roedd fy mhlant i wrth eu boddau â hi), cymrodd y plant damaid bach, ei gwrthod, a’i rhoi yn y bin?! Dechreuais ofyn i fy hun a oeddwn yn coginio’n anghywir, onid oedd y plant yn llwglyd? Roedd gweld y plant yn gwrthod fy mwyd yn fy mrifo. . . . . Ond, mae’r gwir yn gallu bod yn wahanol, ac weithiau mae plant yn gwrthod bwyd am ddyddiau/wythnosau cyn i rywun fedru darganfod pam.

Nid ydynt yn bwyta’r bwyd gan mai CHI sydd wedi ei baratoi, ac nid CHI yw eu Mam. Maent yn teimlo’n rhy nerfus i’w fwyta o’ch blaen chi – rydych chi’n ddieithr. Nid ydynt yn hoffi eich platiau na’ch cyllyll a ffyrc – maent yn wahanol. Rydych chi’n gadael i’r ffa gyffwrdd y sglodion, ac mae hynny’n annerbyniol, ond doeddwn i ddim yn gwybod hynny ar y pryd. Rwyf wedi rhoi dewis iddyn nhw ac nid ydynt yn gallu ymdopi â hynny.

Pan siaradais am hyn gyda fy ngweithiwr cymdeithasol, ei hateb hi oedd ‘efallai eu bod wedi dweud wrthyt beth roedden nhw’n meddwl y byddet ti’n dymuno ei glywed”. Dyna fo. Nid ydynt wir yn hoffi ffrwythau na llysiau na’r bwydydd iach, dim ond nygets cyw iâr a phasta, neu basta plaen oedden nhw’n eu bwyta.

Dros amser, mae gweld y bwydydd a gaiff eu gwrthod yn y bin ailgylchu yn eich helpu i gael darlun o beth mae’r plant yn arfer eu bwyta. Felly – rydych yn addasu ac yn rhoi’r bwydydd y maent wedi arfer eu bwyta iddynt – am gyfnod.

Yn dilyn hynny, rydych yn cyflwyno ‘profion blasau’, rydych yn paratoi bwffe o ryw fath i weld beth sy’n digwydd. Rydych yn torri’r llysiau neu’n gwneud siapiau doniol â hwy ar y blât. Rydych yn adeiladu ar hyn ac yn cynnig anogaeth. Dysgais dacteg gwych gan ofalwr arall – gadael iddynt goginio eu hunain, o’r dechrau i’r diwedd, gadael iddyn nhw wneud y penderfyniadau, ac mae’n gweithio. Dros sawl mis, caiff bwydydd newydd eu cyflwyno, daw platiau’n ôl yn lân, ac mae pawb yn gallu ymlacio.

 

 

Dydd Llun

“15 bar o siocled yng nghanol y nos”

Mae bwyd yn broblem fawr. Maent yn dechrau meddwl am eu swper amser brecwast. Pan gyrhaeddodd y plant gyntaf, cerddais i lawr y grisiau un bore a gweld papurau gwag ar lawr y gegin. Roeddent wedi bwyta 15 bar o siocled yng nghanol y nos.

Unwaith y daethant i ddeall eu bod yn cael bwyd yn rheolaidd, diflannodd y broblem hon. Rydym yn ceisio cynnig yr un pethau i frecwast bob bore; grawnfwyd, tost a jam a ffrwyth. Mae cadw at batrwm yn helpu. Byddent yn bwyta a bwyta, ac yn crïo eisiau mwy.

Maent yn bwyta popeth yr ydym yn ei roi iddynt ac yn bwyta’n sydyn iawn. Cawsom wybod eu bod yn byw ar Jaffa Cakes yn eu cartref blaenorol, ac yn eu bwyta’n gyflym cyn i rywun arall eu cymryd oddi arnynt, nid oeddent yn bwyta prydau. Rydym yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael digon o fwyd; swper a phwdin mawr, ond maent yn dal i gipio bwyd gan eraill os oes cyfle’n codi.

 

Dydd Mawrth

“byddwch yn barod am faeddu a gwlychu”

Pan gyrhaeddodd y plant gyntaf, roeddent yn 3 oed ac yn dal i wisgo clytiau. Os ydych yn gofalu am blant nad ydynt erioed wedi dysgu i fynd i’r toiled, byddwch yn barod am faeddu a gwlychu. Yn eu cartref blaenorol, roeddent wedi arfer gwneud eu busnes yn unrhyw le, felly cafwyd sawl mis o geisio sefydlu patrwm. Mae’n broblem, ac mae rheswm dros hynny, ond mae’n rhaid i chi ddyfalbarhau. Bydd yn rhaid i chi fod yn barod i ymroi gyda phlant bach i’w helpu i ddal i fyny ar yr hyn y maent wedi’i golli.

 

Dydd Mercher

“i fyny ac i lawr y grisiau 10 o weithiau”

Pan ddechreuais ofalu am y plant, nid oeddent erioed wedi cael amser gwely, na gwely na bath hyd yn oed. Roeddent wedi arfer aros yn effro drwy’r nos, heb batrwm. Nid oeddent wedi arfer cael tyweli glân. Ar y noson gyntaf, cerddais i fyny ac i lawr y grisiau tua 10 gwaith am 2 awr. Ond roeddwn yn gwybod bod rhaid i mi fynd i’r afael â hyn yn syth. Rhoddais degan meddal iddynt yr un a darllen stori amser gwely. Erbyn y drydedd noson, cawsom amser stori ac aethant i gysgu’n syth.

 

Dydd Iau

‘nid yw plant mewn gofal wedi clywed straeon da iawn"

Pan roedd fy mhlant fy hun yn dysgu i nofio ac roedd arnaf eisiau iddynt ymlacio yn y dŵr, dywedais wrthynt “esgus mai morlo bychan yn cysgu” oeddynt. Wrth i’m plant fynd yn hŷn, datblygodd hyn i fod yn stori amser gwely. Wrth i mi siarad am y tonnau’n symud yn ôl ac ymlaen, rhythm y tonnau, roeddwn yn gallu gweld eu hamrannau’n ysgwyd. Gall straeon bara am byth.

Fel gofalwr maeth, roeddwn yn gofalu am ferch benderfynol iawn, ac eithaf cecrus. Pan ddaeth hi yma, honno oedd ei noson gyntaf mewn tŷ dieithr. Adroddais stori’r morlo bychan iddi amser gwely. Fe wnaeth hi ymlacio a chysgu. Mae adrodd straeon yn gweithio, i blant o bob oed, p’un a ydynt yn 18 mis oed neu’n 10 oed. Roedd un ferch wedi cael hunllef yng nghanol y nos, felly adroddais stori’r morlo bychan eto.

Rwy’n adrodd straeon iddynt o’m plentyndod fy hun. Nid yw plant mewn gofal wedi clywed straeon da iawn. Maent yn hoffi clywed am blant yn cael profiadau hapus. Maent yn hoffi clywed am fywyd arferol fy nheulu i, nid eu bywyd nhw. Maent yn gofyn i mi “ydi hynny’n wir?” ac maent yn gwybod fy mod yn dweud y gwir. Weithiau, maent yn hawlio fy straeon i, gan eu bod yn gwybod eu bod nhw’n well na’u straeon nhw.

 

Dydd Gwener

“Roedd o’n ei cholli hi’n llwyr wrth chwarae Monopoly”

Pan gyrhaeddodd gyntaf, ceisiais chware gêm o Jenga gydag ef. I blentyn hŷn, roedd y syniad o ennill neu golli yn ormod iddo, ac fe drodd o fod yn blentyn 8 oed i ymddwyn fel plentyn 2 oed mewn ychydig eiliadau. Gwylltiodd yn sydyn iawn.

Prynais sgwter iddo hefyd, aeth â’r sgwter allan a’i dorri. Roedd o’n ei cholli hi’n llwyr wrth chwarae Monopoly, ac yn towlyd y bwrdd yn fwriadol. Mae’n wych am chwarae gwyddbwyll, ond mae’n gallu bod yn gystadleuol iawn. Rwyf wedi dysgu bod gemau 1:1 yn ormod iddo.

Sylwais fod arno eisiau derbyn gofal, ond ar yr un pryd, roedd arno angen rheolaeth ac annibyniaeth. Gallaf oruchwylio, ond nid oes arno eisiau cyfarwyddiadau na rheolau. Mae’n glyfar iawn. Rwyf wedi ceisio meddwl am ffyrdd o feithrin perthynas gydag ef, ar ei delerau ef.

Felly, prynais offer ‘adeiladu llosgfynydd’ iddo. Roedd o wrth ei fodd. Mae bechgyn wrth eu boddau gydag unrhyw beth sy’n toddi neu’n ffrwydro. Roedd arbrofion gwyddoniaeth, cylchedau a lego yn llwyddiannus. Prynais bentwr o lego iddo, ond heb gyfarwyddiadau. Treuliodd oriau yn gwneud ei greadigaethau ei hun gyda manylder. Eisteddodd bob un ohonom yn dawel ac yn brysur yn adeiladu a threfnu. Roedd o wrth ei fodd yn dangos i mi beth roedd o wedi’i greu. Mae’n mwynhau cael hwyl a bod mewn rheolaeth llwyr o’r sefyllfa, dim cywir nag anghywir, mae wrth ei fodd â rhyddid.

 

Dydd Sadwrn

“Nid plant bach yn unig sy’n gwlychu’r gwely”

Mae gwlychu’r gwely’n bwnc sensitif, yn arbennig i blant hŷn. Nid babanod a phlant bach yn unig sy’n gwlychu’r gwely. Mae rhai plant hŷn, 8 neu hyd yn oed 11 a 12 oed yn teimlo cywilydd ac yn teimlo na ddylent fod yn gwlychu’r gwely yn eu hoedran nhw.

Mae gan blant ofn dweud wrthych eu hunain. Yn aml iawn, mae plant yn teimlo’n ofnus yn sgil eu profiadau yn y gorffennol; maent wedi cael eu gadael mewn gwely gwlyb, roedd ganddynt ofn gadael eu hystafell, maent yn meddwl y byddant yn cael ffrae.

Rydym wedi gofalu am blant sy’n dda iawn am guddio’r broblem drwy guddio’r dillad nos gwlyb neu drwy droi’r fatres eu hunain.

Felly pan maent yn cyrraedd, rydym yn cael sgwrs dawel. Rwy’n gofyn iddynt ddweud wrthyf, ac rwy’n addo peidio â gweiddi, ac yn dweud fod gennym gynllun o ran ble i roi dillad gwlyb. Mae dillad nos glân yn barod ar eu cyfer.

Mae eich ymateb yn allweddol. Byddwch yn amyneddgar. Mae’n rhaid iddynt fedru bod yn agored am y peth â chi er mwyn eich galluogi i ymdrin â’r broblem. Unwaith maent yn dechrau teimlo llai o gywilydd, byddant yn rhoi’r gorau i guddio’r broblem.

 

Dydd Sul

“Byddai ond yn setlo yn fy mreichiau i, yn glud yn fy ngŵn nos”

Yr her anoddaf i mi oedd gofalu am blentyn bach a babi a ddaeth yn syth o’r ysbyty. Cawsom 45 munud o rybudd, roeddent ar eu ffordd gyda’r gweithiwr cymdeithasol. Roedd yn argyfwng a bu’n rhaid cysylltu â’r Heddlu. Nid oedd y babi’n setlo ac roedd yr ysbyty’n teimlo bod arno angen bod mewn amgylchedd cartref.

Bu’n crio drwy’r nos ac am hanner y bore wedyn. Ni wnes i gysgu am 2 ddiwrnod. Byddai ond yn setlo yn fy mreichiau i, yn glud yn fy ngŵn nos. Roedd yn dal ei afael arnaf ac ni fyddai’n gadael fynd. Nid oeddwn yn gallu gwneud unrhyw beth. Roeddwn yn cerdded o gwmpas fel sombi. Dechreuais feddwl nad oeddwn yn gallu gwneud hyn.

Roedd o’n anesmwyth, felly penderfynais fynd am dro yn y car. Aethom i McDonalds. Cawsom rywbeth i’w fwyta yn y car, roedd y bwyd ym mhob man, ac o’r diwedd, llwyddodd y babi i setlo i sŵn y motor. Dros y deuddydd nesaf, buom yn gwylio ffilmiau gyda’n gilydd, ac roedd modd i ni eu cysuro a’u helpu i setlo.

Roeddwn wedi anghofio am y nosweithiau digwsg ymhen dim, yn enwedig wrth eu gwylio’n bwyta, chwarae a mwynhau. Roedd yn deimlad gwych. Adegau fel hyn sy’n fy nghadw i fynd. Mewn byd delfrydol, ni fyddai’n rhaid i blant fod angen gofal yn y lle cyntaf, ond mae’n deimlad gwych gallu darparu gofal i’r rheiny sydd wirioneddol ei angen. Fe wnaeth hyn fy helpu i sylwi, os ydw i’n gallu ymdopi â sefyllfa fel hon, rwy’n gallu ymdopi ag unrhyw beth. Mae’n brofiad gwerthfawr tu hwnt.

Diolch i’n gofalwyr maeth gwych am rannu eu straeon.

Mae nifer o ofalwyr maeth â Chyngor Sir y Fflint yn rhan o gymuned “Mockingbird”, lle gallwch rannu profiadau a chyfarfod â theuluoedd maeth lleol.

Cysylltwch â ni os hoffech chi glywed rhagor o straeon gwych gan ofalwyr maeth. Mae croeso i chi anfon e-bost at fostering@flintshire.gov.uk ffonio 01352 701965, anfon neges ar Facebook neu ysgrifennu llythyr atom.