blog

Derbyn Lleoliad Maeth: 15 Cwestiwn Allweddol i'w Gofyn

Cofnodwyd: Sunday 5th September 2021
Blog i Mewn: Blogs

Rydych chi wedi bod i gyfarfod panel. Rydych chi wedi’ch cymeradwyo yn ofalwr maeth. Rydych chi’n aros am yr alwad hollbwysig... ac mae'r ffôn yn siŵr o ganu gan nad ydi gofalwyr maeth yr Awdurdod Lleol yn wag am amser hir.

Ond beth ddylech chi ofyn ar ôl ateb y ffôn? Os ydi’ch partner codi’r ffôn, a fydd yn cofio gofyn yr un cwestiynau â chi?

Mae’n bwysig gofyn llawer o gwestiynau er mwyn derbyn yr holl wybodaeth sydd arnoch chi ei hangen i wneud penderfyniad ar gyfer eich teulu. Bydd eich asesiad wedi pennu ystod cymeradwyaeth ond mae’n bosibl y bydd y tîm maethu yn eich ffonio pan fyddan nhw'n chwilio am leoliad i blentyn o ystod oedran neu ystod cymeradwyaeth gwahanol i’ch ystod arferol.

Mae’n bwysig paru plant â’r lleoliad cywir. Ac er bod hyn yn anodd ar brydiau, mae’n iawn i chi wrthod derbyn plentyn.
Bydd y gwaith papur a gewch gan y gweithiwr cymdeithasol yn cynnwys llawer o wybodaeth, ond mae hefyd yn syniad da i chi ofyn am yr wybodaeth ymlaen llaw.

 

1. Yr Hanfodion

Enw, oed, rhyw. Beth maen nhw’n hoffi cael eu galw? Pryd mae eu pen-blwydd (ydyn nhw’n ddwy ond bron yn dair)? Oes mwy nag un plentyn, brawd a chwaer? Faint, ac a oes modd iddyn nhw rannu ystafell wely? Oes gennych chi ddigon o le yn yr ystafell wely sbâr, yn y car?


2. O ble maen nhw’n dod?

Ydyn nhw’n dod o’u cartref, ydyn nhw newydd gael eu symud o’u teulu? Ydyn nhw’n symud o ofalwr maeth arall? Pam eu bod yn symud? Beth a wyddom am eu cefndir? Ydi hwn yn brofiad trawmatig iddyn nhw? Ydyn nhw wedi symud o un gofalwr maeth i’r llall sawl gwaith? Oes rhywbeth wedi arwain at y symud?


3. I ba ysgol maen nhw’n mynd?

Ydyn nhw’n mynd i’r ysgol? Ydyn nhw’n mynd i ysgol yn llawn amser? Beth ydi’ch cynllun ar gyfer hebrwng y plant i'r ysgol ac oddi yno? Ydyn nhw’n defnyddio cludiant ysgol? Bydd y rhan fwyaf o blant yn aros yn eu hysgolion presennol ac os ydych chi’n maethu gyda’r Awdurdod Lleol dylai bod ysgol y plentyn rhywle o fewn eich sir, ond nid o reidrwydd yr ysgol lawr lôn. Mae lleihau newid a chynnwrf i blentyn yn fuddiol, ond sut mae trefnu mynd i’r gwaith a mynd a nôl y plentyn o’r ysgol? Ydi’r plant bach yn mynd i feithrinfa, a fydd hynny’n parhau?


4. Beth maen nhw’n dod efo nhw?

Oes ganddyn nhw lawer o eiddo? Ydyn nhw’n dod â siwtces yn llawn dillad neu dim ond y dillad sydd amdanyn nhw? Beth sydd ganddyn nhw a beth sydd arnyn nhw ei angen? Oes gennych chi bopeth fydd arnoch chi angen ar gyfer yr ystod oedran honno neu a fydd arnoch chi angen piciad i’r siop?


5. Am ba mor hir fyddan nhw’n aros?

Bydd hyn yn gwneud i’r rhan fwyaf o ofalwyr maeth wenu gan eu bod yn gwybod y gall “ychydig ddyddiau" droi'n ychydig wythnosau a hyd yn oed ychydig fisoedd. Serch hynny, mae’n beth da cael rhyw syniad o ba mor hir y bydd y plentyn yn aros. Fedrwch chi fod yn fwy agored i rywbeth tymor byr? Oes gennych chi ddigwyddiadau pwysig ar y gweill lle bydd gofyn i chi newid eich cynlluniau er mwyn i’r plentyn aros? A fyddai modd i’r plentyn fynd efo chi ar wyliau?


6. Pa drefniadau cyswllt sydd wedi’u gwneud?

A fydd y plant yn gweld mam a dad? Ydi mam a dal yn dal efo’i gilydd? Pa mor aml a phryd maen nhw’n cael cyswllt? Oes ganddyn nhw frodyr a chwiorydd eraill mewn gofal? Ydyn nhw'n gweld ei gilydd? A fydd yn rhaid i mi fynd â’r plentyn i’r cyswllt neu oruchwylio?

7. Gweithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig

Pwy ydi gweithiwr cymdeithasol y plentyn? Pwy sy’n dod â’r plentyn?


8. Datblygiad ac ymddygiad

Pa fath o sêt car fydd ei hangen? Ydyn nhw’n fawr neu’n fach ar gyfer eu hoedran? Ydyn nhw ar y cam datblygu priodol ar gyfer eu hoedran? Oes yna drefniadau dyddiol ac amser gwely penodol? Ydyn nhw’n ysmygu (plant hŷn)? Ydyn nhw’n camddefnyddio sylweddau? Oes unrhyw ymddygiad tuag at ddynion, merched, plant neu anifeiliaid anwes y dylaf wybod amdano?

 

9. Babanod - mae angen adran ar wahân ar gyfer y rhain!

Gwybodaeth cyn-geni. Ydi’r fam wedi derbyn unrhyw ofal cyn-geni? Beth ydi’r dyddiad geni disgwyliedig? A oedd un o’r rhieni yn camddefnyddio sylweddau? A oedd gan y babi symptomau diddyfnu?

Ar ôl i’r babi gael ei eni, neu fabis bach, pa lefrith sydd angen ei ddefnyddio? Ydi’r babi yn derbyn fformiwla babanod neu wedi’i ddiddyfnu?
Dymis? Powdr golchi’r rhieni? Trefn ddyddiol? Maint clytiau?
Iechyd - unrhyw broblem ers geni? Ydi’r holl brofion wedi’u gwneud yn barod ar gyfer rhyddhau o’r ysbyty, pigiad sawdl ac ati? Ydi’r babi wedi’i bwyso (mae hyn yn bwysig iawn... weithiau mae staff yn rhyddhau yn rhy sydyn!!)? Pethau sylfaenol fel pa ysbyty, amser y cyfarfod rhyddhau, at bwy y dylaf fynd ato yn yr ysbyty ac ati?
Yn bendant, fe ddylech chi feddwl am y cyfarpar ychwanegol fydd arnoch chi ei angen ac fe ddylech chi ofyn amdano! Mae’n syniad da cael rhestr o gyfarpar ar gyfer yr oedrannau gwahanol rydych chi wedi’ch cymeradwyo i’w derbyn. Mae hefyd yn syniad da i chi gael garej yn llawn o bethau (seti ceir, cadair uchel, cadair wthio, cot...) fel eich bod chi’n barod i dderbyn y newydd-ddyfodiad.

10. O ble daw’r plentyn a’i deulu?

A fydd ar y plentyn angen ymweld â’r ardal honno’n rheoliad i gwrdd â theulu? Fel gofalwr maeth gydag Awdurdod Lleol, mae’n bur debyg y bydd y plant yn dod o’r ardal leol (mae’n annhebygol iawn y bydd arnoch chi angen teithio am dair awr!). Os ydych chi’n maethu gydag asiantaeth breifat, fe all y plant ddod o ardaloedd pellach. Oes unrhyw ardal y dylaf osgoi? Ydw i’n debygol o weld aelod o’r teulu os ydw i’n mynd i siop benodol neu ydi o’n well i mi osgoi mynd i rai siopau? Ydi’r teulu ehangach yn peri unrhyw risg, ydi hwn yn lleoliad anhysbys - pam hynny?

11. Hoff a chas bethau / personoliaeth

Ydym ni’n gwybod rhywbeth amdanyn nhw? Ydyn nhw’n mynd i grwpiau neu weithgareddau ar ôl ysgol? Lle a phryd? Rydym ni’n clywed llawer o bethau drwg am blant ac yn anffodus mae llawer o bethau negyddol yn cael eu nodi am blant sy’n derbyn gofal ac rydym ni weithiau yn rhy brysur yn rhoi gwybod i chi am broblemau a heriau'r gorffennol fel nad ydym ni’n cofio rhoi gwybod i chi am y pethau da. Gall y pethau bychan eich helpu chi wneud iddyn nhw deimlo'n gartrefol ar ôl iddyn nhw gyrraedd.

 

12. Anifeiliaid anwes

Ydyn nhw’n hoffi cŵn, cathod, anifeiliaid anwes? Ydyn nhw wedi arfer efo anifeiliaid anwes?

13. Unrhyw alergedd neu anghenion meddygol / bwyd

Unrhyw anghenion dietegol? Hoff fwyd? Bydd gwybodaeth feddygol wedi’i nodi ar y gwaith papur ond mae’n werth holi ymlaen llaw hefyd. Ydi bob dim yn gyfredol efo’u brechiadau, apwyntiadau ymwelydd iechyd, gofal deintyddol? A oedd eu hamodau byw yn lân (ydyn nhw’n debygol o fod â llau)? Ydyn nhw’n cymryd unrhyw feddyginiaeth?

14. Diwylliant

Ydyn nhw’n mynd i’r eglwys? Ai Saesneg yw eu hiaith gyntaf?

15. Anghenion cefnogi

Oes arnyn nhw angen unrhyw gefnogaeth gyda’r lleoliad yma? A fydd angen helpu’r plentyn gydag unrhyw beth?

 

I helpu gyda’r galwadau ffôn cyntaf, dyma daflen i chi ei hargraffu a’i chadw wrth ymyl y ffôn.

Pan fo’r gweithiwr sydd ar ddyletswydd maethu yn chwilio am leoliad, yn aml iawn mi fydd yna ychydig o banig a chwilfa daer am y gofalwr cywir sydd ar gael ac yn dweud “ie”. Ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym ni weithiau, ond rydym ni’n rhannu popeth a wyddom. Os ydych chi’n llwyddo i gael atebion i’r rhan fwyaf o’r cwestiynau hyn, yna rydych chi wedi gwneud yn dda iawn. Y gweithiwr cymdeithasol (o’r Awdurdod Lleol) sy’n adnabod y plentyn orau fel rheol fydd yn danfon y plentyn i’ch cartref, ynghyd â’r gwaith papur, felly mae yna gyfle i ddysgu mwy am y plentyn - ond y flaenoriaeth ydi helpu’r plentyn i setlo i mewn a theimlo’n hapus.
Er na chewch chi'r holl atebion, mae'n bwysig eich bod chi'n deall beth ydych chi'n cytuno i'w wneud. Gofynnwch gymaint o gwestiynau â phosibl, fel eich bod chi’n gwybod ein bod ni’n paru’r plentyn â’r teulu cywir. Mae’n llawer gwell i blentyn beidio â symud o un lleoliad i’r llall.

Rŵan bod gennych chi ychydig o atebion, ydych chi’n teimlo’n hyderus i ddweud "ie"? Neu a oes arnoch chi angen trafod gyda’ch partner neu’ch teulu yn gyntaf? Fedrwch chi ffonio’r tîm maethu yn ôl ac, os felly, beth ydi’r rhif ffôn gorau a phwy y dylech chi siarad efo? Pryd fyddwch chi’n gallu cadarnhau eich ateb? Ac oddeutu pryd fydd y plentyn yn cyrraedd? Ydych chi ar restr fer o ofalwyr maeth posibl neu ai chi yw’r unig berson ar y rhestr hyd yma?

Taflen i’w hargraffu am ddim - Cwestiynau i’w gofyn ynglŷn â lleoliad maeth newydd.
Cadwch y daflen hon wrth ymyl y ffôn.

Taflen i’w hargraffu am ddim