blog

Yn 66 mlwydd oed, rwyf bellach yn ofalwr maeth

Cofnodwyd: Wednesday 8th September 2021
Blog i Mewn: Blogs

Rwyf wedi treulio y rhan fwyaf o’m bywyd gwaith mewn amgylchedd ysgol. Yn fy swydd, rwy’n aml yn cyfarfod plant y buaswn wrth fy modd yn mynd â nhw adref efo fi, ond gyda'm teulu fy hun, doeddwn i ddim yn gallu gwneud hynny. Mi fagais fy mhlant yn oedolion, ac yna mi wnes i ymddeol.  

Yn dilyn marwolaeth fy ngŵr, penderfynais gipio bob cyfle sy’n dod i’m pryd. Mi wnes i ychydig o waith gwirfoddol ac ystyriais gael lojer. Yna awgrymodd fy merch i mi ddechrau maethu plant.

“'Dw i'n rhy hen i faethu" meddais.

“Nag wyt siŵr, mae yna bobl yn dal i faethu yn eu 80au” meddai hi. Felly, penderfynais roi cynnig arni.

Yn 66 mlwydd oed, rwyf bellach yn ofalwr maeth.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi gofalu am 14 o blant gwahanol. Rwyf yn ofalwr maeth seibiant. Rwy’n falch o allu cynnig cymorth i brif ofalwyr maeth plant, ac rwy’n eu hedmygu yn fawr.

Rwyf wrth fy modd yn bod yn brysur. Fel arall, mi fuaswn i’n eistedd yn darllen llyfrau, yn cicio fy sodlau heb siarad â neb. Mae’r plant a’r cyrsiau hyfforddi yn rhoi rheswm i mi godi o’r gwely yn y bore.

Fy nghi yw fy mhrif gyfaill wrth faethu.

Mae hyd yn oed y plant mwyaf ofnus yn cyffroi yn ei weld yn eu croesawu ac yn ysgwyd ei gynffon. Maent wrth eu boddau yn rhoi anwes iddo, ac mae o’n ei fwynhau’n arw hefyd. Mae wrth ei fodd â chwmni plant.

Uchafbwynt fy mlwyddyn gyntaf yn maethu oedd pan ddaeth merch yn ei harddegau i aros am benwythnos. Buom yn pobi cacen gyda’n gilydd. Roedd hi eisiau coginio swper I MI! Y tro nesaf y gwelais i hi, fe daflodd ei breichiau amdanaf gan ddweud wrth ei gofalwr "grêt, 'dw i'n dod yn ôl at J eto".  

Maen nhw’n edrych ymlaen at ddod yn ôl ataf, felly mae’n rhaid ‘mod i’n gwneud rhywbeth yn iawn.

 

Rwyf fel arfer yn pobi gyda phlant pan fyddant yn dod draw yma. Mae gwneud pitsas cartref a noson ffilm yn weithgaredd poblogaidd.

Rwyf wedi cael un person ifanc anodd, ond roeddwn i’n eithaf ei hoffi. Dim ond un person ifanc sydd wedi bod yma nad ydw i wedi dod ymlaen yn dda â nhw, ac allan o 14 o blant, dydi hynny ddim yn ddrwg.

Rwyf hefyd wedi cefnogi rhai pobl ifanc sy’n cael amser caled gartref. Maen nhw wedi dod yma yn syth o’u cartref. Ac ar ôl iddynt fynd yn ôl gartref, rwy’n teimlo’n WYCH, oherwydd maen nhw’n hapus ac yn ôl lle maen nhw eisiau bod.

I unrhyw un sy’n meddwl eu bod nhw’n rhy hen i faethu, coeliwch chi fi. Rwyf wedi mwynhau fy mlwyddyn gyntaf yn fawr, rwyf wedi mwynhau’r cwmni a dydw i ddim gwaeth ar ei ôl o. 

Ewch amdani, a rhowch gynnig arni.