blog

10 ffordd y bydd maethu yn effeithio ar eich plant eich hun

Cofnodwyd: Saturday 4th September 2021
Blog i Mewn: Blogs

10 ffordd y bydd maethu yn effeithio ar eich plant eich hun

Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i’ch teulu cyfan. Mae’n hanfodol sicrhau ei fod yn iawn i’ch plant eich hun.

Dyma 10 ffordd y gallai maethu effeithio ar eich plant eich hun.

  1. Bydd eich plant yn cael agoriad llygaid ac yn dysgu mwy am y byd a’r problemau y mae pobl yn eu hwynebu.
  2. Gallant ddod yn fwy gofalgar a deall mwy am broblemau pobl eraill.
  3. Efallai y byddant fwy o werthfawrogiad o’u teulu eu hunain.
  4. Efallai y byddant yn teimlo bod disgwyl iddynt ddangos i blant eraill sut i ymddwyn a bod yn fodel rôl dda, hyd yn oed pan fyddant yn gweld ymddygiad y plentyn maeth tuag atynt a’u rhieni.
  5. Byddant yn teimlo bod y plentyn maeth yn cael gwneud fel y mynno ac nad ydynt yn cael ffrae nac yn cael eu cosbi am unrhyw beth.
  6. Dydi’r tŷ byth yn ddiflas, mae pobl newydd yno o hyd, mae hi’n brysur ac yn swnllyd. Gall plant deimlo diffyg preifatrwydd ac amser, mae yna weithiwr cymdeithasol ar y ffôn neu’n ymweld yn aml.
  7. Mae llawer o blant yn mwynhau helpu i edrych ar ôl babi neu blentyn bach. Gallant ddatblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol neu yrfa ym maes gofalu. Mae llawer yn mynd ymlaen i fod yn ofalwyr maeth eu hunain.
  8. Gallant deimlo balchder pan fydd y plentyn yn cyflawni pethau newydd, gan wybod eu bod wedi helpu. Gallant deimlo balchder bod eu teulu yn helpu plant.
  9. Gallant deimlo mai’r plentyn maeth sydd yn cael yr holl sylw. Fe allent deimlo cenfigen, neu deimlo nad yw eu problemau mor bwysig.
  10. Mae’n anodd gweld plant yn symud ymlaen.

Fel gofalwyr maeth, mae ein disgwyliadau o’n meibion a’n merched yn uchel. Rydym yn gofyn iddynt rannu eu cartrefi, eu heiddo a’u teuluoedd gyda phlant nad ydynt yn eu hadnabod. Rydym yn gofyn iddynt ymdopi gydag ystod eang o ymddygiad gan y plant sydd yn byw gyda nhw.

Pan fyddwch chi’n maethu a bod eich plant eich hun yn dal i fyw gartref, mae’n hanfodol bwysig fod gennych wasanaeth maethu sydd yn ystyried eich plant chi wrth baru plant gyda’ch teulu, ac yn cynnwys eich plant chi mewn trafodaethau am faethu.

O gadw at y ‘drefn bigo’...i drefnu gweithgareddau i’r teulu a fydd yn addas ar gyfer yr holl blant – gallwn roi cyngor i chi am ddewis yr ystod oedran sydd yn gweithio orau.