blog

fostering brothers and sisters

Cofnodwyd: Thursday 23rd September 2021
Blog i Mewn: Blogs

Mae Kim wedi bod yn ofalwr maeth am 18 mlynedd, ei phrofiad maeth cyntaf gyda brawd a chwaer. Ers hynny mae hi’n cofio maethu o leiaf 3 neu fwy o grwpiau o frodyr a chwiorydd:

“Cyrhaeddodd dau frawd ifanc ar fy stepen drws.

Pan wnaethon nhw gyrraedd  roedd yr hynaf yn gafael yn dynn am ysgwydd ei frawd bach ac yn dweud wrtho fod popeth yn mynd i fod yn iawn.  

Mae maethu yn debyg i wneud jig-so...heb y llun.  

Mae cael brawd a chwaer yn helpu i roi'r darnau gyda'i gilydd ac i lenwi'r bylchau.

Rydych angen amynedd ac amser.

Yn aml byddai’r brawd neu chwaer hŷn yn cofio pethau nad oedd yr ieuengaf yn ei gofio.

Weithiau byddai’r plant yn rhan o deulu llawer mwy ac yn aml byddem yn eu cyfarfod yn y parc.

Roedd 5 o blant mewn un teulu yn agos iawn mewn oed.

Dwi wrth fy modd gyda’r hyn a wnaf.

Hyd yn oed ar ôl 18 o flynyddoedd dwi dal yn cael boddhad mawr ohono, dwi wrth fy modd gyda her.”