blog

Ein taith maethu - cam wrth gam

Cofnodwyd: Friday 17th September 2021
Blog i Mewn: Blogs

Ydych chi erioed wedi dychmygu sut deimlad fyddai’r daith i fod yn ofalwr maeth?

Yn y blog hwn, mae gofalwyr maeth newydd yn rhannu eu taith maethu gam wrth gam o’u sgwrs gyntaf  â’r tîm maethu i ofalu am eu plentyn cyntaf.

 

Ein taith i fod yn ofalwyr maeth

  • Cysylltu â’r tîm maethu
  • Ymweliad i’n cartref
  • Agoriad llygad go iawn
  • Mwy o waith papur
  • Mynd i banel
  • Wedi ein cymeradwyo!
  • Yr alwad ffôn gyntaf yna
  • Ein plentyn maeth cyntaf
  • COVID 19

Ar ôl gweld neges am faethu ar Facebook roeddwn yn teimlo bod yn rhaid i mi ddarganfod mwy am faethu i’n Cyngor lleol...

Rydym ar hyn o bryd yn magu ein merch fach, ein gwyrth, ein babi IVF. Mae hi’n brydferth, meddylgar a chwilfrydig.

Ar ôl sgwrs hir gyda fy ngŵr am faethu dyma ni’n penderfynu y byddai ein teulu bach yn elwa’n fawr o edrych ar ôl plant ac wrth gwrs yn cynnig cartref sefydlog a llawn cariad i’r rheiny sydd ei angen.

Cysylltu â’r tîm maethu

Cysylltais â’r tîm maethu trwy gyfryngau cymdeithasol ac yn fuan iawn wedi hynny roeddem yn mynychu noson wybodaeth. Yn seiliedig ar brofiadau blaenorol; dyma ni’n cael ein cynghori ei fod yn bwysig ein bod yn maethu plant sy’n iau na’n hogan fach, roedd hynny felly’n golygu edrych ar ôl blant 0-4 oed. Mae gofalu am y grŵp oedran hwn yn gyffredinol yn golygu nad wyf yn gallu gweithio sydd yn ffactor pwysig i’w ystyried gan fod lwfans maethu ddim yn mynd i fod yn ddigon i dalu’r biliau (ond wrth gwrs mae’n cyfrannu tuag atyn nhw).

Ein hymweliad cyntaf

O’r pwynt hynny gwyddwn ein bod eisiau maethu. Dyma weithiwr cymdeithasol hyfryd yn ymweld â’n cartref ar gyfer y cam nesaf. Fel rhan o’n taith hyd yma rydym wedi gwylio ffilmiau o ofalwyr maeth yn ‘bwrw iddi’, gan egluro rhai o’r trafferthion a’r sefyllfaoedd bu’n rhaid iddyn nhw ei wynebu, a llenwi llawer o waith papur i sicrhau mai ni yw’r bobl gywir ar gyfer y gwaith.

Agoriad llygad go iawn

Roedd y cwrs hyfforddi (tridiau) yn agoriad llygad go iawn, mae’n ofnadwy o anodd clywed am blant bach yn cael eu hanwybyddu a’u diystyru gan ei rhieni, yn enwedig gan ei fod mor agos i adref - a phlant bach sy’n byw yn ein hardal leol. Dyma ni’n cael y cyfle i gwrdd â gofalwyr maeth, darpar ofalwyr a mwy o weithwyr cymdeithasol oedd i gyd yn chwarae rôl bwysig iawn er mwyn mynegi i ni yr hyn a fyddai o’n blaenau pe bawn yn mynd amdani! Dyma fy ngŵr a finnau yn mynychu’r cwrs oedd yn anodd gan fod y ddau ohonom yn gweithio ac yn magu plentyn tair oed ond mae jyglo pethau yn rhan o fod yn rhieni da yn ein barn ni.

Mwy o waith papur

Unwaith eto roedd mwy o waith papur, asesiad iechyd gan ein Meddyg Teulu a phenodwyd gweithiwr cymdeithasol ar ein cyfer (Hazel) a oedd yn ein helpu wrth i ni symud ymlaen at yr asesiad terfynol. Bydd Hazel gyda ni am weddill ein gyrfa maethu, hi sy’n ein helpu ac yn rhoi arweiniad i ni ar bethau fel pa fath o ofalwyr maeth y dymunwn ei efelychu. Bydd Hazel yn ymweld â ni yn wythnosol am ychydig fisoedd a phan mae hi’n meddwl ein bod yn barod, byddwn yn mynd o flaen panel o aseswyr.

Rydym chwe mis i mewn i’r broses ac yn mynd o flaen panel o aseswyr sy’n swnio fymryn yn ddychrynllyd, ond dim ond dechrau ein taith yw hyn, mae maethu yn dechrau pan fyddwn yn agor ein drysau i blentyn bach, sydd yn ein llenwi â chyffro ac ofn ar yr un pryd!

Mynd i banel

Mae’r diwrnod wedi cyrraedd! Mae’r diwrnod wedi cyrraedd lle rydym wedi treulio 10 mis yn paratoi ar ei gyfer, ers ein sgwrs gyntaf am faethu, da ni’n mynd o flaen y panel.....

Mae’n teimlo fel oes ond ar yr un pryd wedi hedfan i rywle. Dros y pedwar mis diwethaf, mae fy ngŵr, ein merch fach, y ci a finnau wedi bod yn gweithio gyda Hazel (ein gweithiwr cymdeithasol) yn wythnosol i fagu perthynas, gofyn cwestiynau a delio gydag unrhyw waith papur sy’n rhan o’r broses. Mae Hazel wedi gweld y da, y drwg a’r hyll yn ein cartref! O blentyn bach wedi blino i’n ci anghenus - mae hi wedi gweld pob agwedd o’n bywyd fel teulu!

Mae Hazel wedi llunio adroddiad swmpus i’r tîm ei ddarllen cyn i ni gyrraedd. Dyma ni’n cyrraedd pum munud cyn ein hapwyntiad (yn disgwyl gorfod aros gan fod y pethau yma byth yn dechrau ar amser), ac yn gadael gyda 15 munud i sbario, ond roedd yna ddamwain ar yr A55 ac roedden ni ar ei hol hi ac yn teimlo dan bwysau braidd! Beth bynnag, roedd popeth yn iawn a dyma ni’n cael ein galw i’r ystafell gyfarfod yn Neuadd y Sir.

Roedd hi’n ddiwrnod heulog a braf ac roedd yna tua 12 o wynebau croesawgar yn canolbwyntio arnom ni. Mae fy ngŵr a finnau wedi arfer siarad yn gyhoeddus (ond dwi ddim yn deud ein bod ni’n dda am wneud hynny chwaith!) ond roedd yn helpu ni i ymlacio. Roedd un ddynes yn arbennig yn arwain, ac fe ofynnodd ychydig o gwestiynau, roedden ni wedi trafod y math yma o gwestiynau o flaen llaw gyda Hazel felly doedd yna ddim cwestiynau annisgwyl! Ar ôl beth oedd yn teimlo fel dau funud dyma ni’n cael ein harwain allan o’r ystafell fel bod y panel yn cael cyfle i drafod ac yna dyma ni’n dychwelyd i’r ystafell. Allai ddim cofio eu hunion eiriau ond roedden ni WEDI LLWYDDO! Rydym bellach wedi cofrestru’n swyddogol i ofalu am blant bach 0-4 oed.


Wedi ein cymeradwyo!

Aethon ni’n dau am frecwast hwyr/cinio cynnar i ddathlu, ac roedden ni ar dân eisiau rhannu ein newyddion gyda’n merch fach - a’i hymateb cyntaf oedd ‘mami dwi ddim eisiau helpu chdi i edrych ar ôl hogan fach arall’ ond unwaith i mi egluro wrthi y byddai ganddi rywun i chwarae gyda dyma hi’n newid ei meddwl yn sydyn iawn! Mae hi bellach yn ychydig wythnosau ers i ni gael ein cymeradwyo ac rydym yn edrych ymlaen yn arw i ofalu am ein plentyn maeth cyntaf! Mae mwy o waith papur wedi bod a chyrsiau ar-lein i’w cwblhau a hefyd dwi wedi rhoi fy enw i lawr i wneud cyrsiau ar gymorth cyntaf a diogelu.

Rŵan ein bod wedi mynd o flaen y panel nid oes angen i ni weld Hazel am ein coffi am ddwy awr bob wythnos a dal i fyny gyda hi yn ein cartref ac mae dod i arfer gyda pheidio â gwneud hynny yn mynd i gymryd amser! Ond unwaith y bydd gennym blentyn sy’n derbyn gofal, bydd wyneb cyfeillgar Hazel yn dychwelyd yn fwy aml i’n cefnogi ni.

O ran paratoi i gael hogyn/hogan 0-4 oed yn ein bywydau does dim llawer y gallwn ei wneud tan y byddwn yn cael yr alwad ffôn ‘na - amseroedd cyffrous iawn o’n blaenau!

Bron i fis ers i ni gael ein cymeradwyo dyma ni’n derbyn ein galwad gyntaf. 

 

Yr alwad ffôn gyntaf yna

Am 3pm ar ei ben dyma rywun o’r tîm maethu yn ffonio yn dweud bod 'na hogyn bach angen ein help. Roedd hi’n hanner tymor ag roeddwn i’n canu gyda fy hogan fach 4 oed mewn parti Tywysogesau! Dyma ni’n mynd adref ar unwaith i baratoi, a tair awr yn ddiweddarach roedd cot wedi’i roi at ei gilydd, cadair uchel yn ei le a dyma ni’n disgwyl am gnoc ar y drws. Roedd Babi A wedi bod yn y feithrinfa, felly fe gyrhaeddodd oddeutu 6pm gyda gweithiwr cymdeithasol a gweithiwr cymorth. Heb fynd i fanylion roedd mam angen seibiant, egwyl fach, ac roedden ni’n fwy na hapus i helpu. Dyma Babi A yn cropian ac yn archwilio ein cartref gyda’i lygaid. 30 munud wedi hynny roedden ni’n gofalu amdano. 

Ein plentyn maeth cyntaf

Yn 14 mis oed roedd Babi A yn cropian yn sydyn! Roedd o’n bwyta’n dda ac wedi ymateb yn wych i ni. Doedd o methu siarad ond roedd ei sgiliau cyfathrebu dieiriau yn rhagorol. Datblygodd yr arferion oedd o’i angen yn naturiol (llefrith, cysgu, bwyd ac ati) gan mai dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl roedd fy merch yr oed yna. Roedd cysgu yn her, yn arbennig am ei fod wedi cael annwyd, ond fel teulu dyma ni’n gweithio fel tîm i’w wneud yn brofiad hapus i bawb. Erbyn iddi ddod yn amser i Babi A fynd adref roedden ni gyd wedi cymryd ato’n fawr, wel ar wahân i’r ci! Roedd Babi A yn crychu ei wyneb a smalio ‘chwyrnu’ i ddweud wrtho gadw i ffwrdd - ac roedd ein ci ni’n gwrando, roedd o’n ddoniol gwylio’r ddau a pha mor glyfar oedd Babi A i osod ffiniau ei hun iddo!
Yn wreiddiol roedd Babi A gyda ni am “ychydig o ddyddiau” ond fe drodd hynny yn 6 noson yn y diwedd. Dyma ni’n dysgu o’r profiad cyntaf hwn bod amser yn maethu yn gallu bod fel elastig, mae’r sefyllfa yn newid yn gyson ac mae llawer o bethau na wyddwn amdanyn nhw. Rydym wedi dysgu’n sydyn nad oes yna ffasiwn beth â chael lleoliad ‘nodweddiadol/syml’! Mae pob achos yn unigryw ac felly y dylai hi fod! Mae gofalu am blentyn bach yn fraint.

COVID19

Ym Mawrth 2020 a ninnau ond wedi dechrau ar ein taith maethu dyma’r Coronafeirws yn effeithio pob dim. Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gofalu am blentyn ond nid achos bod ein drysau wedi cau i’r syniad. Mae maethu yn dal i ddigwydd yn ystod y cyfnod yma. Mae’r tîm yn parhau i amddiffyn plant a dod o hyd i ffyrdd newydd o wneud ei gwaith, hyd yn oed os yw hynny o bellter.
Mae rhai prosesau llys wedi’i gohirio ond rydym yn disgwyl galwad unrhyw ddydd. Mae’r pandemig hwn yn newid yn ddyddiol ond fel teulu rydym yn ddigon ffodus i fod adref yn ddiogel trwy’r adeg.

Mae gennym y lle ac mae ein breichiau yn llydan agored i ofalu am eraill ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i baratoi ar gyfer yr alwad ffôn nesaf yna.