blog

Siarad am faethu gyda'ch teulu

Cofnodwyd: Saturday 18th September 2021
Blog i Mewn: Blogs

Pryd yw’r amser cywir i sôn wrth eich teulu am y syniad o faethu?

  • Beth fydd eich rhieni’n ei feddwl?
  • Fydd eich gŵr a’ch plant mor awyddus ag ydych chi?

Mae’n bwysig gadael iddyn nhw wybod, eu cynnwys yn y broses a’u sicrhau gydag atebion i’w cwestiynau. Dyma ychydig o awgrymiadau gwych i’ch helpu i siarad gyda’ch teulu am faethu. 

 

 

  1. Cyffro ac amserlenni realistig. Pryd fydd y plentyn yn cyrraedd?
  2. Ydych chi wedi ystyried hyn yn iawn? Ydych chi’n gwybod digon am y peth?
  3. Cwestiynau, cwestiynau, cwestiynau. Pa oedran, pa ryw...?
  4. Fydd o fel Tracy Beaker?
  5. Dod o hyd i’r amser cywir i sôn am Faethu


1. Cyffro ac amserlenni realistig. Pryd fydd y plentyn yn cyrraedd?

Pan fyddwch chi’n eich bod chi’n ystyried maethu, dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim yn gwybod beth ydy’r broses a faint o amser fydd popeth yn ei gymryd. Felly efallai y byddant yn disgwyl i blentyn gyrraedd yn fuan, heddiw neu’r wythnos nesaf. Gall plant gyffroi yn ofnadwy. Byddwch yn barod i’w tawelu, fel rydych yn ei wneud adeg y Nadolig. Mae’n mynd i gymryd 6 mis o leiaf felly meddyliwch am garreg filltir eglur y byddant yn ei deall; “ar ôl gwyliau’r Haf” neu “ar ôl dy ben-blwydd nesaf” fel y gallant ei roi mewn cyd-destun. 

“Ymateb cychwynnol teulu agos a ffrindiau oedd cyffro, a gofyn am amserlenni? Plentyn o ba oedran / pa ryw fyddwn i’n debygol o faethu?"

2. Ydych chi wedi ystyried hyn yn iawn? Ydych chi’n gwybod digon am y peth? 

Ydych chi’n sôn amdano wrth y teulu ar y dechrau neu unwaith yr ydych ran o’r ffordd drwy’r broses? Mae hynny i fyny i chi. Mae’n syniad da rhannu’r peth gyda theulu, yn enwedig eich aelwyd, cyn i chi ddechrau ar eich asesiad gan y byddwn eisiau sgwrsio efo nhw. Mae’n well eu bod wedi cael cyfle i ddod i arfer â’r syniad ac nad yw’n dod fel syrpreis.

Bydd faint a wyddoch am faethu yn dibynnu ar faint rydych wedi ei ymchwilio eich hun. Felly os ydych yn y camau cynnar mae’n bosib mai’r ateb fyddai “Dw i wedi cychwyn ymchwilio i’r peth, fe allwn ni gael sgwrs arall pan fyddaf yn gwybod mwy fy hun”. Neu os byddwch yn dewis aros nes y byddwch yn gwybod mwy eich hun, gallwch rannu beth rydych chi wedi ei ddysgu ar hyfforddiant.

“Roedd fy rhieni mewn ychydig o sioc a’u cwestiwn cyntaf oedd a oeddwn wedi meddwl drwy hyn yn llawn? Pa drafodaethau ydw i wedi eu cael hyd yma?”

 

3. Cwestiynau, cwestiynau, cwestiynau. Pa oedran, pa ryw...? 

Efallai y bydd eich teulu yn disgwyl i chi wybod popeth am faethu, gan gynnwys pa blentyn rydych yn mynd i’w faethu / maethu. Pa oedran fyddan nhw, ai bachgen neu ferch? Yr ateb ydy, dydych chi ddim yn gwybod, ond gallwch roi syniad iddynt o’r oedran rydych yn edrych arno. Byddai’r rhan fwyaf o swyddogion recriwtio o dîm maethu’r awdurdod lleol yn hapus i sgwrsio efo’r teulu ehangach ac ateb eu cwestiynau i chi. Mae llawer o adnoddau ar gael i egluro maethu i deulu hefyd.

Ar gyfer meibion a merched: https://www.youtube.com/watch?v=s-6WkqTDUCU

Ar gyfer plant:Childrens Fostering Guide English

Ar gyfer plant yn eu harddegau: https://www.thefosteringnetwork.org.uk/sites/default/files/public/resources/newsletters/18-15896_thrive_magazine_english_web.pdf

Ar gyfer teidiau a neiniau: https://www.youtube.com/watch?v=5-4jC1Sqvnc&t=2sttps://www.youtube.com/watch?v=5-4jC1Sqvnc

4. Fydd o fel Tracy Beaker? 

Sioe deledu i blant yw Tracy Beaker a gafodd ei ddangos gyntaf yn 2002 ac a fu ar y sgrîn tan 2018, felly bydd llawer o bobl ifanc wedi clywed amdani, gwylio’r sioe neu ddarllen y llyfrau gan Jacqueline Wilson. Ymddangosodd ar y teledu eto yn 2021 fel “My Mum Tracy Beaker”.
 bod yn onest, dydw i erioed wedi ei wylio ond yn ôl Wikipedia mae Tracy yn byw dan ofal mewn cartref gofal y mae hi’n ei alw yn “The Dumping Ground”. Mae ganddi ddychymyg gwyllt ac mae’n torri rheolau yn rheolaidd. O ganlyniad mae’n cael ei hystyried yn rôl model gwael gan rieni.
Mae Sophia Alexandra Hall, person ifanc sydd â phrofiad o ofal, yn trafod Tracy Beaker yma: https://metro.co.uk/2021/02/11/as-a-former-foster-kid-im-giving-tracy-beaker-a-second-chance-14059591/

 

5. Dod o hyd i’r amser cywir i sôn am Faethu 

Gall fod yn anodd dod o hyd i’r amser cywir i sôn am Faethu. Os ydych yn chwilio am ffordd gynnil o sôn am y peth, beth am sôn am rywun enwog sydd wedi maethu (mae llwyth ohonynt i’w cael), neu sôn am sioe deledu neu ffilm. Er enghraifft, cafodd Paddington ei faethu gan y Browns, Superman, Kriss Akabusi, Neil Morrisey, Marilyn Monroe, Luke Skywalker, Pippa yn Home and Away (cyfeirio at yr 80au!) a chafodd llawer mwy eu mabwysiadu neu eu gofalu amdanynt gan deulu.  Fy hoff ffilm ar y funud yw “Instant Family” ac er ei fod yn Americanaidd ac yn cynrychioli sefyllfa “maethu i fabwysiadu”, mae llawer o’r pethau ynddo’n gywir ac yn hwyl i’w wylio. 

“ Dim ond yn ddiweddar iawn dywedais i wrthyn nhw, ac oherwydd fod llawer o weithgareddau’n mynd ymlaen gyda’r teulu, roedd yn rhaid i fi ei ffitio i fewn ar ddiwrnod ‘da’ pan nad oedd eu sylw nhw ar rywbeth arall.”

 


Wrth i chi ymchwilio i faethu, mae’n syniad da mynd a’ch teulu ar y daith honno gyda chi. Gallant wedyn groesawu plentyn i’r teulu â breichiau agored a’ch cefnogi ar hyd y ffordd. Gall eich tîm maethu awdurdod lleol drefnu sgyrsiau gyda theuluoedd maethu eraill a chynnig hyfforddiant hyd yn oed i ateb cwestiynau eich teulu.