blog

Beth mae maethu yn eich dysgu chi?

Cofnodwyd: Friday 22nd October 2021
Blog i Mewn: Blogs

Gofynnodd mam a dad i ni (fy mrawd a minnau) beth oedd ein barn am faethu.

Ychydig iawn yr oeddem ni’n ei wybod am faethu ar y pryd, felly dyma ni’n gwrando ar yr hyn oedd ganddyn nhw i’w ddweud ac yna cawsom gyfle i feddwl a fyddai maethu yn rhywbeth yr hoffem ni ei wneud.

Rydym ni wedi bod yn maethu ers dros dair blynedd bellach a dw i’n hapus i ddweud ein bod ni’n mwynhau.

 

Ffrindiau

Rydym ni wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ers dechrau maethu. Rydym ni’n mynd i grwpiau maethu ifanc ac yn cael llawer o hwyl gyda bechgyn a merched yr un oed â ni. Mae ein gweithiwr cymdeithasol wastad yn gyfeillgar hefyd.

 

 

 

Cyfleoedd

Rydym ni wedi bod i weithdy Sgiliau Maethu ac wedi cael cyfle i fynegi ein barn a helpu eraill. Dw i’n hoffi helpu i edrych ar ôl y plant. Dw i’n dysgu sgiliau newydd pob dydd, sgiliau a fydd yn fy helpu pan fyddaf yn hŷn.

 

 

 

Rhannu

 

Mae bod yn rhan o deulu maeth yn golygu bod yn rhaid i ni rannu llawer o bethau.

 

Rydym ni’n rhannu ein cartref gyda’r plant, yn rhannu ein teganau a’n pethau personol, ac rydym ni’n rhannu ein hamser. Ond, yn bwysicach, rydym ni’n rhannu mam a dad, ond dydi hynny ddim yn rhy ddrwg gan fod gan mam a dad lawer o gariad ac amser i’w rannu ac wrth i ni fynd yn hŷn rydym ni’n fwy annibynnol.

Amser

 

Cyn maethu dwi ddim yn meddwl ein bod ni’n gwerthfawrogi faint o amser  roedd ein rhieni yn ei dreulio efo ni. Rydym ni rŵan yn rhoi ein hamser i helpu eraill, ac mae’n deimlad braf.

 

Emosiwn

 

Mae dangos emosiwn yn beth da. Mae ffarwelio â’r plant yn anodd ond mae’n iawn bod yn drist.

 

Gwerth Chweil

 

Mae bod yn rhan o deulu sy’n maethu yn beth gwerth chweil. Dydan ni ddim yn deulu efo galluoedd arbennig, ond rydym ni’n hoff iawn o helpu plant sydd angen ein cymorth. Rydym ni’n eu cadw’n gynnes, saff a hapus.

Charlotte , 15 oed