blog

Pa fath o faethu sy'n iawn i mi?

Cofnodwyd: Saturday 18th September 2021
Blog i Mewn: Blogs

Mae ein holl ofalwyr maeth yn wahanol. Pa fyddwch yn gwneud cais i faethu, byddwn yn eich arwain tuag at y math o faethu sy’n iawn i chi. Pan fyddwch yn maethu gyda’ch Awdurdod Lleol, mae dewis mawr o wahanol fathau o faethu i’ch gweddu chi, eich teulu ac eich argaeledd. Dyma rai o’n gofalwyr maeth yn Sir y Fflint yn rhannu’r math o faethu maent yn ei wneud a pham.

 

Babanod a 0-4

“Anne ydw i, ac rwy’n 41 oed. Mae gennym ferch pump oed mewn ysgol Gymraeg leol ac rwyf i gartref yn ystod y dydd. Penderfynodd fy ngŵr a minnau faethu gyda babanod 0-4 oed mewn golwg. Mae’r grŵp oedran hwn yn berffaith ar gyfer ein teulu bach ni; mae hyn fel arfer yn golygu ‘tymor byr’ (unrhyw amser hyd at flwyddyn) gan eu bod yn symud i gael eu mabwysiadu neu i fynd yn ôl at y teulu."

 

 

Oedran ysgol

“Caroline ydw i ac rwy’n 46 oed ac rwy’n maethu gyda fy ngŵr Rob sydd yn 49. Mae ein merch yn 20 oed ac yn y brifysgol ar hyn o bryd. Rydym yn maethu plant oedran ysgol.
Rwy’n gweithio bob diwrnod ac rwy’n gwneud oriau sy’n gweithio o amgylch yr ysgol. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i mi hebrwng plant i'r ysgol a bod adref pan maent yn dod adref o’r ysgol neu goleg.
Fe wnaethom faethu 2 ferch ac rydym yn parhau i’w cefnogi fel pobl sy'n gadael gofal ar y Cynllun Pan Rwy’n Barod. Rydym hefyd yn maethu bachgen bach yn hirdymor.”

 

 

Seibiant

Fy enw i yw Lindsay. Rwy’n 59 oed ac yn byw ar fy mhen fy hun. Rwy’n gweithio llawn amser ac rwyf ar gael ar fwyafrif o benwythnosau.

Fel gofalwr seibiant, mae hyn yn golygu fy mod yn maethu ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol. Mae’r un merched yn dod i aros gyda mi un penwythnos y mis. Rwy’n eu casglu ar ddydd Gwener ac yn mynd a nhw i’r ysgol fore dydd Llun. Maent yn cael hwyl gyda mi, rydym yn chwerthin yn aml ac maent yn gallu siarad gyda mi.

Pan fyddaf yn ymddeol o fy swydd, rwy’n edrych ymlaen at allu gwneud mwy o faethu yn llawn amser.”

 

18 + Pan rwy’n Barod

“Rwy’n 43 oed ac yn gweithio llawn amser. Yn gyffredinol, rwy’n gofalu am blant hŷn a phobl ifanc. Rwy’n cefnogi pobl ifanc (rua 17-18 oed fel arfer) i ddod o hyd i waith, mynychu’r coleg a dysgu sgiliau bywyd tan eu bod yn barod i fyw ar eu pennau eu hunain.

Rwyf hefyd yn darparu lleoliad maethu brys, tymor byr a seibiant.”

 

Rhieni a'u Plentyn

“Rydym ni ymhell mewn i’n chwedegau ac rydym dal wrthi felly peidiwch â gadael i oedran fod yn rhwystr, mae Sir y Fflint yn wych i weithio iddynt. Rwyf wedi gofalu am 18 mam a 2 dad fel gofalwr maeth i riant a’u plentyn.”

Beth bynnag yw eich amgylchiadau, mae math o faethu, neu gyfuniad o faethu ar gael i’ch gweddu chi.

Rhaid i chi allu gofalu am ystod oedran o 5 mlynedd, sydd yn iau na phlant eraill yn y cartref. NID OES UNRHYW UN RHY HEN i fod yn ofalwr maeth. Os ydych ar gael yn ystod y dydd, mae hynny’n wych! Os ydych chi’n gweithio, gallwch chi addasu eich oriau gwaith i ddanfon a chasglu o’r ysgol? Os nad allwch chi, allwch chi gynnig cymorth yn ystod penwythnosau a gwyliau ysgol?

Mae nifer o resymau i faethu gyda’ch Awdurdod Lleol, yn arbennig gan ein bod yn cynnig ystod eang o faethu i’ch gweddu chi a’ch teulu.