blog

Pwy fyddai yn rhiant maeth yn ystod amser y Nadolig?

Cofnodwyd: Friday 22nd October 2021
Blog i Mewn: Blogs

Gall y Nadolig fod yn amser anodd i rai teuluoedd, ac yn enwedig ar gyfer plant mewngofal maeth. Gwnaethom ofyn i'n rhieni maeth a gweithwyr cymdeithasol i rannu eu profiad o faethu dros gyfnod y Nadolig a dyma beth ddywedasant.... 

“Roedd gennym fachgen bach gyda ni ar gyfer y Nadolig, ac roeddem wedi prynu castell lego iddo. Roedd wrth ei fodd gydag ef a threuliodd y cyfan o fore Nadolig yn ei adeiladu gyda fy ngŵr. Pan ddaethom yn ôl drwodd i'r lolfa ar ôl ein cinio Nadolig, roedd y castell wedi mynd.Roedd pob un o'r teganau wedi mynd. “Ble mae’r holl deganau wedi mynd?” gofynnais. Roedd yn edrych yn bryderus. Dywedais “mae’n iawn, dweud wrtha i.” “I fyny'r grisiau” sibrydodd.Aethom i fyny'r grisiau, ac yno yn cuddio yng nghefn ei wely roedd y teganau i gyd. “Byddai mam a dad bob amser yn eu gwerthu nhw” dywedodd “roeddwn yn eu cadw'n ddiogel.”Cadwodd ei deganau yn ei ystafell am wythnos cyn dod â nhw yn raddol i lawr y grisiau i chwarae.” Gofalwr Maeth

"Roedd gennym ferch yn ei harddegau gyda ni un Nadolig. Doedd hi erioed wedi cael llawer o Nadolig adref.  Rydym yn wirioneddol fwynhau’r Nadolig felly gwnaethom ei deffro hi yn y bore a dod a hi i lawr y grisiau at y goeden. Roedd yn rhaid i ni ddangos iddi beth i'w wneud. Roedd hi wrth ei bodd, hyd yn oed gyda dim ond y darnau bach o golur roeddem wedi eu prynu iddi.” Rhiant Maeth 

“Roedd gennym blentyn maeth wedi cyrraedd ar 23 Rhagfyr ac roedd rhaid i ni ruthro allan a brynu anrhegion yn gyflym.” Rhiant Maeth

“Rydym yn dal i gadw’r addurniadau mae rhai o'n plant maeth wedi gwneud, a phan fyddant yn dod yn ôl i ymweld, maent yn gweld bod yr addurniadau yn dal i fod ar y goeden.” Rhiant Maeth 

“Ni allai'r plant gredu bod yr holl anrhegion iddyn nhw, ac y gallent eu cadw.” Rhiant Maeth 

“Roeddem yn wir yn edrych ymlaen at y Nadolig gyda'n plentyn maeth. Roedd y cyfan wedi ei gynllunio. Ond roedd wedi llethu gan y cyfan, ac aeth a’i holl anrhegion i fyny a threuliodd y diwrnod cyfan yn ei ystafell wely.” Rhiant Maeth

“Y rhan fwyaf o Noswyliau Nadolig, gofynnir i ni i roi tua 5 o blant mewn gofal maeth ac rydym yn ffonio o gwmpas ein gofalwyr maeth yn gofyn a ydynt yn gallu gofalu am blentyn dros y Nadolig. Ond yn aml mae’r cynllun yn newid ac nid oes angen gofal maeth ar y plant wedi'r cyfan, panig drosodd.Mae ein gofalwyr maeth bob amser yn wych ac yn gwneud popeth yn ddidrafferth.” Gweithiwr Cymdeithasol Maethu 

“Cyrhaeddodd Mam i'r sesiwn gyswllt â bagiau a bagiau o anrhegion. Nid oedd rhai o'r anrhegion yn briodol i'w hoedran. Roeddent i blentyn llawer iau - oedran y plant pan aethant i ofal maeth am y tro cyntaf.” Rhiant maeth 

“Gwnaethom ofyn i ofalwr maeth a allent ofalu am blentyn dros y Nadolig. Roedd yn rhaid iddynt ffonio eu teulu yn gyflym a oedd ar y ffordd i ymweld ar gyfer y Nadolig, i newid eu cynlluniau am nad oedd lle iddynt.” Gweithiwr Cymdeithasol Maethu

“Gall rhai plant gael y Nadolig yn eithaf anodd. Mae'r drefn gyfan yn newid.  Mae hyd yn oed y drefn ysgol yn wahanol gydag ymarfer ar gyfer y sioe Nadolig ac ati. Mae'n rhy wahanol ac ychydig yn llethol.”Gweithiwr Cymdeithasol Maethu 

“Roedd ein gofalwyr maeth wedi prynu llawer o anrhegion i’r plant, oherwydd nad oedd ganddynt unrhyw beth. Yna roedd neiniau a theidiau’r plant yn cyrraedd gyda llwyth arall o anrhegion. Roedd ychydig yn llethol.” Gweithiwr Cymdeithasol Maethu


Gall y Nadolig fod yn gyfnod anodd, ond mae ein gofalwyr maeth gwych yn croesawu plant i'w cartrefi i rannu cinio Nadolig, agor anrhegion a theimlo fel rhan o'r teulu.