blog

Pa wiriadau maethu sy'n cael eu gwneud?

Cofnodwyd: Saturday 11th September 2021
Blog i Mewn: Blogs

Pa wiriadau maethu sy’n cael eu gwneud?

  1. Gwirio cofnodion troseddol
  2. Gwiriadau iechyd
  3. Llythyrau geirda
  4. Gwiriadau tramor a milwrol
  5. Amddiffyn plant
  6. Cyn bartneriaid
  7. Cartref, gardd a chymdogaeth
  8. Eich teulu
  9. Anifeiliaid anwes
  10. Cyllid

Gwirio cofnodion troseddol

Mae’n rhaid i bob aelod o’ch cartref sydd dros 16 mlwydd oed gael gwiriad. Byddwn hefyd yn cysylltu â thimau gwasanaethau prawf yr ardaloedd yr ydych wedi byw ynddyn nhw.

Gwiriadau iechyd

Byddwn yn cysylltu â’ch Meddyg Teulu er mwyn sicrhau bod eich iechyd yn ddigon da i ofalu am blentyn. Byddwn yn gofyn i chi fynychu apwyntiad meddygol gyda’ch meddyg teulu.

Llythyrau geirda

Bydd gofyn i chi ddarparu dau eirda yr un. Ni ddylai’r canolwyr fod yn perthyn i chi a dylent fod yn bobl sy’n eich adnabod ers dros ddwy flynedd ac sydd, yn ddelfrydol, yn byw yn lleol. Gofynnir i’r canolwyr lenwi ffurflen a byddwn hefyd yn ymweld â nhw. Byddwn hefyd yn cysylltu â’ch cyflogwr am eirda.

Gwiriadau tramor a milwrol

Os ydych wedi byw dramor neu wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, byddwn hefyd yn cysylltu â’r awdurdodau perthnasol.

Amddiffyn plant

Byddwn hefyd yn gwirio a ydych wedi cael unrhyw gyswllt â’r Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant yn y gorffennol ym mhob ardal yr ydych wedi byw. Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu ag ysgolion eich plant hefyd i wirio eu presenoldeb a’u hymroddiad i addysg.

Cyn bartneriaid

Os ydych wedi bod mewn perthynas arwyddocaol yn y gorffennol, rydym o dan gyfarwyddyd llym i gysylltu â’ch cyn bartner i wirio achosion o drais yn y cartref. Dim ond os gallwch ddarparu tystiolaeth bendant y byddai hynny’n peri gofid neu’n fygythiad i’ch teulu y gallwn benderfynu peidio â chysylltu â nhw.

Cartref, gardd a chymdogaeth

Bydd eich cartref a’r ardal lle’r ydych yn byw hefyd yn cael eu hasesu o ran diogelwch, adnoddau a mynediad i ysgolion lleol. Os ydych yn maethu plant dan 8 oed, rhaid i chi osod gorchudd plastig neu grid parhaol ar byllau a nodweddion dwˆ r mewn gerddi er mwyn diogelu plant.

Eich teulu

Bydd y gweithiwr cymdeithasol a fydd yn eich asesu yn cynnal trafodaethau unigol gyda phawb yn y cartref i drafod eu teimladau a’u hagwedd tuag at faethu.

Anifeiliaid anwes

Caiff unrhyw anifeiliaid anwes eu hasesu i ofalu eu bod yn ddiogel ac na fyddant yn peryglu’r plentyn. Ni fydd neb sydd â chwˆ n sydd wedi’u henwi yn y Ddeddf Cwˆ n Peryglus 1991 yn cael eu hystyried. Mae cwˆ n peryglus yn cynnwys Pit Bull Terrier, Japanese Tosa, Dogo Argentino a Fila Braziliero.

Cyllid

Trafodir incwm a threuliau’r teulu, i’ch helpu i asesu’r cyllid sy’n gysylltiedig â maethu. Trafodir unrhyw fenthyciadau a dyledion hefyd er mwyn sicrhau bod eich cartref yn ddiogel.