Cysylltwch Ni
Anfon Pecyn Gwybodaeth i mi
Dewch i gwrdd tîm
Ar ôl darllen y pecyn gwybodaeth hwn, hoffem eich gwahodd i noson wybodaeth i ganfod mwy. Yna byddwn yn ymweld â chi yn eich cartref i wirio’ch prawf adnabod ac addasrwydd eich cartref.
Gwirio Cefndir
Byddwn yn rhoi ffurflenni i chi eu llenwi er mwyn gwirio’ch cefndir.
Hyffordiant
Cynhelir hyfforddiant Sgiliau Maethu dros dri diwrnod llawn a byddwn yn trafod rôl y rhiant maeth, y plant, gweithio gyda’n gilydd, diogelwch, ymddygiad a gollwng gafael. Bydd yr hyfforddiant yn eich helpu chi i benderfynu a yw maethu’n addas i chi.
Yr Asesiad & Panel
Bydd gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â chi o leiaf chwe gwaith er mwyn dod i’ch adnabod. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn cyflwyno
adroddiad i’r panel. Gallwch chi hefyd fod yn bresennol.
Anfon pecyn gwybodaeth i mi