Fotolia_36788289_XS_sq

2 year old girl

Rydym ni’n chwilio am gwpl lleol sy'n gallu rhoi ymrwymiad tymor hir i ofalu am ferch ddyflwydd oed.

Mae Seren* yn ferch fach ddisglair dyflwydd oed sy’n hoffi canu hwiangerddi, nofio a mynd i sesiynau chwarae meddal lle mae hi'n gallu dringo a chael hwyl efo plant eraill yr un oed â hi. Mae gan Seren gyflwr iechyd a allai effeithio ar ei datblygiad; twf, dysgu ac ymddygiad. Nid yw'n bosibl rhagweld ym mha ffordd yn union y bydd y cyflwr yn effeithio arni yn y dyfodol.

Mae gan Seren gyflwr iechyd a allai effeithio ar ei datblygiad; twf, dysgu ac ymddygiad. Nid yw'n bosibl rhagweld ym mha ffordd yn union y bydd y cyflwr yn effeithio arni yn y dyfodol.

Rydym ni’n chwilio am gwpl, heb blant ifanc eraill yn y cartref, sy'n byw yn Sir y Fflint. Byddwn yn darparu taliad blynyddol yn ychwanegol at y lwfans maethu i ganiatáu i un person fod yn ofalwr maeth llawn amser yn y cartref heb unrhyw ymrwymiad gwaith arall. Bydd yn rhaid i chi fod ag ystafell wely sbâr a’r gallu i edrych ar ôl eich iechyd eich hun, ac ni ddylech chi fod ag unrhyw euogfarn yn ymwneud â thrais neu blant.

Byddwn yn darparu taliad blynyddol yn ychwanegol at y lwfans maethu i ganiatáu i un person fod yn ofalwr maeth llawn amser yn y cartref heb unrhyw ymrwymiad gwaith arall. Bydd yn rhaid i chi fod ag ystafell wely sbâr a’r gallu i edrych ar ôl eich iechyd eich hun, ac ni ddylech chi fod ag unrhyw euogfarn yn ymwneud â thrais neu blant.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01352 702190 (opsiwn 3), e-bostiwch fostering@flintshire.gov.uk neu ewch i ddigwyddiad gwybodaeth sydd ar y gweill.

neu ewch i ddigwyddiad gwybodaeth sydd ar y gweill.

*Nid Seren yw ei henw iawn

RHANNWCH OS GWELWCH YN DDA

Wedi ei bostio ar Wednesday 15th October 2014