Pam Maethu Gyda Ni?

Cefnogaeth a Manteision

cyllid a lwfansau

Byddwch chi’n cael lwfansau ariannol fel gofalwr maeth gyda thîm Maethu Cymru Sir y Fflint. Mae’r lwfansau ariannol yn seiliedig ar wahanol ffactorau, fel y math o faethu rydych chi'n ei wneud, nifer y plant rydych chi'n eu maethu, ac am ba mor hir rydych chi'n maethu.

Er enghraifft, yn Sir y Fflint mae gofalwyr maeth yn derbyn rhwng £9,900 a £36,000 y flwyddyn..

manteision eraill

Mae bod yn ofalwr maeth yn cynnig mwy o fanteision na rydych chi’n ei sylweddoli. Ynghyd â’r cymorth a’r lwfansau y soniwyd amdanyn nhw eisoes, yn Sir y Fflint byddwch chi hefyd yn cael:

  • Gostyngiad o 50% yn y Dreth Gyngor.
  • Aelodaeth am ddim o Cadw.
  • Cerdyn golau glas - mynediad am ddim ac am bris gostyngol i atyniadau yn y DU.
  • Aelodaeth o’r Rhwydwaith Maethu.
  • Mae Cyngor Sir y Fflint yn Gyflogwr sy’n Deall Maethu.

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

Ac mae mwy! Mae pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, wedi ymrwymo i’r hyn rydyn ni’n ei alw yn Ymrwymiad Cenedlaethol. Pecyn o hyfforddiant, cefnogaeth a manteision y cytunwyd arno yw hwn, i bob un o’n gofalwyr maeth ei fwynhau.

Felly, fel gofalwr maeth Maethu Cymru, byddwch chi’n elwa o’r canlynol:

Father-helping-son-ride-a-bicycle-scaled-1

un tîm

Mae pawb sy’n ymwneud â bywyd plentyn maeth – pob gweithiwr proffesiynol ac, wrth gwrs, chi eich hun – yn rhan o’r Awdurdod Lleol. Rydyn ni’n un tîm ac rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd bob amser. Mae’r ffocws hwn ar gysylltiad yn helpu i sicrhau bod y plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw, a’u teuluoedd maeth, yn cael y dyfodol gorau posibl. Fel gofalwr maeth, byddwch chi wastad yn cael eich cynnwys, eich gwerthfawrogi a’ch parchu yn y tîm.

Drwy ddod yn rhan o’r tîm, byddwch chi’n ymuno â’r rheini sy’n gyfrifol yn y pen draw am bob plentyn mewn gofal yng Nghymru, a byddwch yn helpu plant i aros yn eu hardal leol. Dyna sy’n gwneud y tîm hwn yn wahanol i bob tîm arall..

Woman-helping-daughter-with-homework

dysgu a datblygu

Rydyn ni’n eich helpu i dyfu gyda’n pecyn cymorth - a system o fanteision cyson ar draws Cymru. Mae dysgu a thyfu yn rhannau allweddol o’r hyn rydyn ni’n ei gynnig.

Mae’r offer a’r hyfforddiant rydyn ni’n eu darparu yn eich galluogi i ddatblygu’n ofalwr maeth hyderus a galluog. Er mwyn diwallu anghenion y plant sydd yn eich gofal yn llawn.

Fel gofalwr maeth Maethu Cymru, bydd gennych gofnod dysgu personol unigol a chynllun datblygu. Mae’r cynllun hwn yn cadw golwg ar y cynnydd rydych chi’n ei wneud – y sgiliau a’r profiadau gwerthfawr a throsglwyddadwy rydych chi wedi’u hennill, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Two-young-boys-in-playground

cefnogi

Fel gofalwr maeth gyda Maethu Cymru, dydych chi byth ar eich pen eich hun. Bydd ein tîm ar gael i’ch cefnogi a’ch annog gyda phob cam.

Bydd gennych chi weithiwr cymdeithasol profiadol a phroffesiynol i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith cyfan.

Bydd gennych chi hefyd fynediad at amrywiaeth o grwpiau cefnogi, lle byddwch chi’n cwrdd â gofalwyr maeth eraill. Bydd hyn yn gyfle i chi siarad, gwrando a rhannu eich profiadau. 

Mae cymorth gan gymheiriaid ar gael gyda phob tîm Maethu Cymru lleol, a gall wneud byd o wahaniaeth. Fel partner Mockingbird cyntaf y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru, gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, gallwch chi elwa o’r model cymorth hwn gan gymheiriaid.

Group of happy teenagers laughing

y gymuned faethu

Mae cadw mewn cysylltiad yn allweddol. 

Bydd y gymuned faethu yn dod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill drwy fynychu digwyddiadau a gweithgareddau. Byddwch chi’n gwneud ffrindiau newydd, yn cael profiadau newydd ac yn creu atgofion newydd.

Bydd gennych chi fynediad at lawer o wybodaeth a chyngor ar-lein, felly fyddwch chi byth yn teimlo ar eich pen eich hun.

Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru, byddwn ni’n talu i chi fod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru. Pam? Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod y cymorth annibynnol, y cyngor preifat, yr arweiniad a’r manteision ychwanegol y mae’r sefydliadau maethu arbenigol hyn yn eu cynnig yn amhrisiadwy.

Cooking with son

llunio’r dyfodol

Y cam pwysicaf yw’r cam nesaf – beth allwch chi ei wneud i sicrhau dyfodol gwell i blentyn. Er bod gan bob plentyn orffennol, rydyn ni’n canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol. Mae’n ymwneud â siapio’r dyfodol fel gofalwr maeth.

Byddwch yn cael eich clywed nid yn unig yn lleol, ond yn genedlaethol hefyd. Bydd eich barn yn dylanwadu ar sut byddwn ni’n symud ymlaen. Bydd cyfleoedd i chi ymgynghori a dylanwadu ar ddyfodol maethu yng Nghymru, yn ogystal â chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf.

become a foster carer

get in touch

  • By submitting your information you understand that Flintshire County Council may contact you about your fostering enquiry. Privacy Policy