Gweithiwr Cymdeithasol – Mockingbird

Parhaol, 37 awr yr wythnos
Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso Graddfa 05 (SCP 24 i 27) £27,905 i £30,507 Gweithiwr Cymdeithasol Lefel 3 (Wedi datblygu drwy Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhau Graddfa 06 (SCP 28 i 31) £31,371 i £33,799
Lleoliad: Swyddfeydd y Sir, y Fflint, Sir y Fflint


  
Mae rhaglen Mockingbird yn ddull arloesol o ddarparu gofal maeth gan ddefnyddio model teulu estynedig, sy'n darparu cyfleoedd cysgu dros nos, cefnogaeth gan gymheiriaid, a chyfleoedd hyfforddiant a chymdeithasol. Mae’r gweithiwr cymdeithasol yn ymgymryd â rôl gyswllt, gan gynnal cyswllt rheolaidd â’r hwb gofalwyr cartref, gan ddarparu cefnogaeth, canllawiau a goruchwyliaeth o’r gofalwyr clwstwr.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fod yn arloesol, yn greadigol, yn gefnogol, yn canolbwyntio ar waith grŵp ac yn ymwybodol o ofynion gofal modern a sicrhau bod y model Mockingbird yn cael ei sefydlu o fewn cymuned gofal maeth ehangach Sir y Fflint.
Gan weithio gydag amrywiaeth eang o asiantaethau a gweithwyr proffesiynol mae’r swydd yn gofyn am ymroddiad, hyblygrwydd a dealltwriaeth drylwyr o’r holl safonau maethu perthnasol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) Cymru. Mae’r swydd yn gofyn am y gallu i feithrin cydberthnasau effeithiol gyda thimau gwasanaethau cymdeithasol a chreu partneriaethau cydweithredol cryf gydag asiantaethau eraill. Yn ogystal, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos tystiolaeth o angerdd a phenderfyniad i gwrdd â gofynion y rôl hon.


Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn Ddymunol.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fod wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru a gan y bydd y swydd hon yn arwain at gael cysylltiad sylweddol gyda phlant a/neu oedolion diamddiffyn bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn destun gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
 
I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â:
Jenny Frost (Rheolwr Tîm) ar 01352 702659 Peter Robson (Rheolwr Gwasanaeth) ar 01352 701028

Ymgeisio ar-lein

 

Anfon pecyn gwybodaeth i mi
Back to Top