Pam Maethu Gyda Ni?

Pam Ein Dewis Ni?

pam ein dewis ni?

Mae Maethu Cymru yn wahanol i asiantaethau maethu eraill. Ni yw’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu nid-er-elw Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Pobl sy’n bwysig i ni, dim elw. Mae Maethu Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda gofalwyr maeth i greu bywydau gwell i blant lleol yn eu hardal leol.

Ein blaenoriaeth a’n pwrpas yw creu dyfodol mwy disglair i blant. Dyna sy’n cyfrif go iawn. 

example-img-05

ein cenhadaeth

Mae gan bob plentyn stori wahanol, ond mae ein cenhadaeth yr un fath ar gyfer pob plentyn: creu dyfodol gwell. 

Mae yna blant o bob oed yn Sir y Fflint sydd ein hangen ni ac sydd eich angen chi. 

example-img-03

ein cefnogaeth

Ni yw eich rhwydwaith cefnogi lleol, yn darparu cymorth i chi a’r plant yn ein gofal.

Byddwn yno i chi bob cam o’r ffordd ar eich taith faethu i gynnig ein harbenigedd, ein cyngor a’n hyfforddiant hanfodol.

example-img-01

ein ffyrdd o weithio

Mae cysylltu a chydweithio yn allweddol i bopeth rydyn ni’n ei wneud yn Maethu Cymru Sir y Fflint. Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i greu dyfodol gwell i blant mewn cymunedau lleol.

Mae ein sefydliad yn rhan o’ch cymuned – rydyn ni’n rhan o’r dodrefn.

Mae pob plentyn yn unigryw ac mae ganddyn nhw anghenion unigryw. Mae ein gofalwyr maeth yn unigryw hefyd, a’n dyletswydd ni yw eu helpu i fod y fersiwn gorau ohonyn nhw eu hunain, gan ddefnyddio eu talentau a chefnogi eu datblygiad.

example-img-02

eich dewis

Rydyn ni’n gwybod bod angen i chi wneud y dewis iawn i’ch teulu. Rydyn ni yma i roi’r gefnogaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i wneud y penderfyniadau gorau.

Dewiswch weithio gyda phobl sy’n gofalu gyda Maethu Cymru. Mae ein pobl yn unigolion hyfforddedig ac ymroddedig sy’n byw lle rydych chi’n byw ac sy'n deall realiti bywyd yn eich cymuned.

Cysylltwch â ni heddiw i gymryd y cam cyntaf.

become a foster carer

cysylltu â ni

  • By submitting your information you understand that Flintshire County Council may contact you about your fostering enquiry. Privacy Policy