
Pan ddechreues i feddwl am faethu, roeddwn am wneud yn siwr bod fy mhlant fy hun yn hapus hefo’r syniad. Mae "Maethu Ifanc" yn rhoi cyfle iddynt fwynhau trip bob gwyliau ysgol i ddweud diolch " Sue, gofalwyr maeth
Grwp "Young Fosterers"
Rydym yn rhedeg grŵp cefnogi ar gyfer plant rhieni maeth, sy’n cynnig hyfforddiant, cefnogaeth a digwyddiadau llawn hwyl i ddweud diolch yn fawr i’ch plant eich hun.
Stori Leah
Mae Leah, 23, o'r Wyddgrug wedi bod yn rhan o deulu maeth ers 7 blynedd. Dechreuodd ei rhieni faethu pan oedd yn 16 oed ac maent wedi gofalu am 27 o blant at ei gilydd. Mae'n dweud bod y profiad o fod yn rhan o deulu maeth wedi bod un gwirioneddol werthfawr.
Roeddwn yn unig blentyn felly mae maethu wedi bod yn gyfle i mi osod esiampl i blant iau. Mae wedi bod yn gyfle i mi fod yn berson y mae plant yn ei edmygu ac mae hynny, yn ei dro, wedi fy ysbrydoli i fod yn berson gwell, eglurodd. Mae maethu'n brofiad da. Mae'n ddiddorol ac rydych yn dysgu rhywbeth o hyd. Mae'n anhygoel cael y cyfle i greu perthynas â chynifer o bobl ddiddorol o wahanol gefndiroedd. "Doeddwn i ddim yn siŵr i ddechrau, ond rwy'n siŵr bod hynny'n wir yn achos pob plentyn sy'n rhan o deulu maeth, ond os rhowch gyfle iddo, fyddwch chi ddim yn edifarhau.Ychwanegodd Leah, sy'n awr yn byw oddi cartref;Fedra i ddim dychmygu mynd adref heb weld wynebau gwahanol yn fy nghroesawu a'r cynhesrwydd a'r cariad y gall plentyn mewn gofal ei gynnig. Leah
Canllaw Plentyn i fod yn deulu maeth
-
Ein hanesion maethu
-
Eich cwestiynau
-
Ein tripiau hwyl

Blog
Mae fy nheulu yn maethu, gan B, 16 oed
Blog: Blog: 10 ffordd y bydd maethu yn effeithio ar eich plant eich hun
Mae angen calon fawr i afael llaw fach
Anfon pecyn gwybodaeth i mi