Mockingbird yw model teulu estynedig o ofal maeth a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith Maethu. Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint yw'r partner mockingbird cyntaf y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru.
Flintshire Fostering Service is The Fostering Network’s first mockingbird partner in Wales.
Beth yw Mockingbird?
Mae'r Model Mockingbird yn ddull arloesol o ofal maeth gan ddefnyddio’r Model Teulu Mockingbird. Mae hwn yn fodel teulu estynedig sydd yn darparu gofal seibiant, cefnogaeth gan gymheiriaid, cynllunio a hyfforddiant rheolaidd ar y cyd, a gweithgareddau cymdeithasol.
<
>
Mae’r rhaglen Mockingbird wedi seilio ar Fodel Teulu Mockingbird, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan The Mockingbird Society yn America yn 2004.
Mae’r model Mockingbird, a addaswyd gan y Rhwydwaith Maethu, yn fodel lle mae un cartref maeth yn gweithredu fel hwb i ofalwyr gofalwyr yn cynnig arhosiad dros nos wedi’u cynllunio a rhai brys, yn ogystal â chyngor, hyfforddiant a chefnogaeth. Mae’r hwb gofalwyr maeth yn darparu cefnogaeth i oddeutu 6 i 10 o ofalwyr maeth yn eu cymuned. Nod y rhaglen yw gwella sadrwydd lleoliad ar gyfer y plentyn a’r teulu maeth a'u helpu i adeiladu perthynas cryfach.
Gweithiwr Cymdeithasol – Mockingbird
https://www.flintshirefostering.org.uk/cy/Support-training/Mockingbird-supervising-social-worker.aspx
Gofalwyr Maeth Hwb - Mockingbird
https://www.flintshirefostering.org.uk/cy/Could-I-foster/Flintshire-Mockingbird-Hub-Home-Carer.aspx