blog

10 peth i'w ofyn wrth drosglwyddo asiantaeth faethu

Cofnodwyd: Tuesday 7th September 2021
Blog i Mewn: Blogs

Os ydych yn ystyried trosglwyddo i asiantaeth faethu neu awdurdod lleol gwanhaol, dyma 10 cwestiwn i’w gofyn.

  1. Faint yw oedran y plant sydd gennych chi i mi?
  2. Alla i drosglwyddo gyda’r plant rwyf yn eu maethu ar hyn o bryd?
  3. Fydda i yn cael yr un gefnogaeth?
  4. Oes gennych chi ddigwyddiadau cymdeithasol i deuluoedd sy’n maethu?
  5. Fydda i’n cael egwyl, gwyliau a seibiant?
  6. Ydy hi’n bosibl trosglwyddo fy hyfforddiant?
  7. Oes yna rolau cyflog uwch ar gyfer gofalwyr profiadol?
  8. Faint o amser mae’n gymryd i drosglwyddo?
  9. Oes raid i mi fynd drwy hynny i gyd eto, neu alla i ddefnyddio fy asesiadau blaenorol?
  10. Sut mae’r arian yn cymharu?

1. Faint yw oedran y plant sydd gennych chi i mi?

Yn Sir y Fflint y llynedd, rhoddwyd 54 o blant newydd gyda’n gofalwyr maeth mewnol ein hunain a rhoddwyd 10 gyda gofalwyr o asiantaeth faethu annibynnol. Roedd 50% o’r plant a roddwyd gyda’n gofalwyr ni rhwng 0-4 oed. Mae gennym blant o bob oed a mathau gwahanol o faethu ar gael.

2. Alla i drosglwyddo gyda’r plant rwyf yn eu maethu ar hyn o bryd?

Os yw’r plant yn gyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol, yna bydd yn hawdd i chi drosglwyddo gyda’r plant rydych yn gofalu amdanynt. Dim ond gydag un Awdurdod Lleol y gallwch gael eich cymeradwyo felly os yw’r plant yn dod o wahanol Awdurdodau Lleol, gallai hyn fod ychydig yn anodd a bydd angen gwneud trefniadau gyda’r Awdurdodau Lleol eraill, ac efallai na fydd hynny’n bosibl.

3. Rwyf wedi clywed fod gan weithwyr cymdeithasol yr Awdurdod Lleol nifer fawr o achosion ac na fyddaf yn cael yr un gefnogaeth.

Dydy hyn ddim yn wir. Bydd gennych weithiwr cymdeithasol ymroddedig ar y tîm maethu a bydd ar gael i’ch cefnogi. Bydd y plentyn yn parhau i fod â gweithiwr cymdeithasol o’r Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol amdanynt, felly mae hynny yr un fath yn union pwy bynnag yr ydych yn maethu gyda nhw – ag eithrio ein bod ni i gyd wedi ein lleoli yn yr un swyddfa.

4. Oes gennych chi ddigwyddiadau cymdeithasol i deuluoedd sy’n maethu?

Oes (o dan amgylchiadau arferol), rydym yn trefnu digwyddiadau a theithiau i bob teulu a phlentyn maeth, a llawer o ddigwyddiadau yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae gennym grŵp arbennig ar gyfer eich plant eich hunain hefyd.

5. Fydda i’n cael egwyl a gwyliau, a’r plant yn treulio cyfnodau seibiant?

Byddwch. Mae gennym ofalwyr seibiant ar gael. Gall gofalwyr wneud cais am hyd at 24 diwrnod a gellir ei gymryd fel bloc 14 diwrnod neu fel egwyl rheolaidd. Dewis arall, fel rhan o Mockingbird, yw i ofalwyr maeth gael nifer diderfyn o seibiant byr, gofal dydd ac aros dros nos, ac mae’r rhain ar gael yn ôl y galw ac ar fyr rybudd.

6. Ydy hi’n bosibl trosglwyddo fy hyfforddiant?

Ydy. Dangoswch gopi i ni o’ch cofnod hyfforddi ac fe fyddwn yn cyfateb hwn gyda’n hyfforddiant ni. Mae taliad gan yr awdurdod lleol yn cynyddu wrth i chi gwblhau hyfforddiant, felly gall eich hyfforddiant blaenorol eich galluogi i drosglwyddo i lefel uwch.

7. Oes yna rolau cyflog uwch ar gyfer gofalwyr profiadol?

Oes. Fel gofalwr profiadol gyda chymhwyster QCF neu NVQ gallech drosglwyddo ar lefel 3. Mae ein rolau Darpariaeth Adsefydlu ac Ôl-ofal (therapiwtig), Rhiant a Phlentyn Gyda’i Gilydd a gofalwyr hwb cartref Mockingbird yn gofyn am o leiaf 2 flynedd o brofiad ac yn cynnig taliad uwch.

8. Faint o amser mae’n gymryd i drosglwyddo?

Roedd y gofalwr mwyaf diweddar i drosglwyddo’n llwyddiannus, wedi ei gymeradwyo o fewn 6 mis i gysylltu â ni.

9. Oes raid i mi fynd drwy hynny i gyd eto, neu alla i ddefnyddio fy asesiadau blaenorol?

Mae’n bosibl fod eich asesiadau blaenorol wedi digwydd ychydig flynyddoedd yn ôl ac ni fyddant yn cynnwys eich holl brofiad maethu. Mae hefyd yn berchen gan fwyaf i’ch asiantaeth bresennol. Byddwn yn defnyddio’r broses asesu er mwyn dod i adnabod ein gilydd. Wnawn ni ddim oedi ar y pethau sylfaenol rydych chi yn eu gwybod yn barod.

10. Sut mae’r arian yn cymharu?

Fel gofalwr i asiantaeth byddwch wedi arfer gydag un swm bob wythnos, i bob plentyn sy’n tua £300-£400. Fel gofalwr maeth lefel 3 gyda’r Awdurdod Lleol, byddwch yn derbyn cyfanswm taliad tebyg wrth ofalu am un plentyn. Fel gofalwr arbenigol, mae hyn yn cynyddu i £600-£800+ bob wythnos.


“Penderfynais 2 flynedd yn ôl, drosglwyddo i’r Awdurdod Lleol. Yn raddol, cefais fy nadrithio yn fy asiantaeth oedd yn ymddangos fel pe baent yn canolbwyntio ar fusnes ac elw.
Roeddwn wedi cael yr argraff, pe bawn i’n trosglwyddo i’r awdurdod lleol, na chawn i unrhyw gefnogaeth ac y byddwn ar fy mhen fy hun, sydd ddim yn wir o gwbl.
Dydy maethu ddim yn waith hawdd, ond mae’r gefnogaeth rydw i wedi ei chael gan dîm yr awdurdod lleol wedi bod yn anhygoel. Gwnewch eich ymchwil, dewch i gyfarfod y tîm a wnewch chi ddim difaru”

Gofalwr Maeth a drosglwyddodd o asiantaeth faethu i Awdurdod Lleol.