Beth yw maethu?

Gallwch wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn lleol heddiw. Drwy rannu eich cartref, gallwch gynnig bywyd heb esgeulustod a chamdriniaeth i blant neu roi cyfle i’w teulu ddatrys eu problemau.

Rhywun sy’n gofalu am blant pan nad ydynt yn gallu byw gyda’u teuluoedd eu hunain yw Rhiant Maeth. Gall y cyfnod o ofal amrywio o ychydig o ddyddiau i ychydig o flynyddoedd.

Mae maethu’n gallu cynnwys edrych ar ôl plant o bob oedran, o fabanod i bobl ifanc yn eu harddegau. Gallwch ddewis pa oedran fyddai orau i’ch teulu. Rydym yn argymell eich bod yn maethu plant sy’n iau na’ch plentyn hynaf.

Nid yw’n hawdd, ond fe all fod yn un o’r pethau gorau a wnewch chi erioed gyda’ch ystafell sbâr. 

 

Anfon pecyn gwybodaeth i mi
Back to Top