Mae gofalwr maeth yn…

Siblings slider
"Mae gofalwyr maeth wedi gwneud llawer i mi. Mae’n bwysig gwybod fod rhywun yn eich caru, yn enwedig pan ydych yn ifanc." J, 18 oed
 

"Mae gofalwr maeth da yn rhywun ymroddedig, cyfeillgar, sy’n eich trin yr un fath, yn gofalu amdanoch ac yno i chi pan mae eu hangen arnoch. Pan symudais i mewn, roeddwn yn nerfus, ond ar ôl y tair wythnos gyntaf roeddwn yn teimlo’n gyfforddus ac ers hynny rwyf wedi teimlo fel pe tawn i’n perthyn yma. Dros y Nadolig cefais fy nghroesawu a’m gwneud i deimlo fel rhan o’r teulu. Maen nhw’n mynd â fi i bartïon teulu a dydyn nhw ddim yn fy ngadael allan. Os yw pobl yn ystyried maethu, byddwn yn dweud wrthynt am beidio â meddwl ddwywaith. Peidiwch â barnu’r unigolyn ifanc, rhowch gyfle iddyn nhw. Roeddwn i’n arfer bod yn rebel; meddwi ac ati. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydw i wedi newid ac i fy ngofalwr maeth y mae’r diolch am hynny." Unigolyn ifanc, 15 oed

 

"Dysgodd i mi sut i goginio. Roeddwn yn eistedd yn gwylio cartŵn a dywedodd y gallwn ei helpu yn lle eistedd yno. Dysgodd i mi sut i wneud cawl brocoli; dyna un o fy hoff bethau i’w coginio nawr." L, 18 oed

Mae gofalwr maeth da yn…
  • - Eithaf hamddenol
  • - Agos atoch chi
  • - Yn eich trin fel eu plentyn eu hunain
  • - Nid yw’n eich gadael allan. Mae’n eich cynnwys yn nigwyddiadau’r teulu
  • - Rhywun y gallwch siarad ag ef/hi
  • - Rhywun sydd yno i chi, yn arbennig pan fydd ei angen arnoch
  • - Yn dangos i chi eu bod yn meddwl amdanoch
  • - Yn rhoi sylw i’r hyn sydd gennych i’w ddweud ac yn hoffi treulio amser gyda chi
  • - Rhywun sy’n fy nhrin i a fy mrawd yr un fath
  • - Rhywun sydd ddim yn eich barnu
  • - Rhywun sy’n barod i dderbyn pobl ifanc a ddim er mwyn cael yr arian
  • - Dibynadwy
  • - Rhywun sy’n eich annog i gymryd rhan mewn pethau newydd, chwaraeon a chlybiau
  • - Rhywun sydd yno i chi sgwrsio â nhw
  • - Maent yn dysgu pethau newydd i chi, fel sut i goginio
Anfon pecyn gwybodaeth i mi
Back to Top