Dychwelyd ac Atal - helpu plentyn i fyw gyda theulu
Mae plant mor ifanc â 10 oed yn byw mewn gofal preswyl oherwydd eu hanghenion cymhleth neu ymddygiadol. Rydym eisiau rhoi cyfle iddyn nhw fyw gyda theulu.
(Dyma yw dychwelyd, cyfeirir ato hefyd fel “cam i lawr”)
Rydym hefyd eisiau atal plant rhag symud i leoliad preswyl neu yn bell i ffwrdd o'u cymuned.
(Dyma beth yw atal)

Fel rhan o dîm, byddwch yn gweithio gyda therapyddion, gweithwyr cymdeithasol a gofalwr maeth cefnogol (seibiant) i roi ymyrraeth ddwys er mwyn gwneud gwahaniaeth i lwybr bywyd y plentyn.Darperir hyfforddiant dwys, cymorth a goruchwyliaeth yn ogystal â chyswllt uniongyrchol o gyfathrebu i'r tîm rheoli'r gwasanaethau sy'n gysylltiedig.
Bydd disgwyl i chi fuddsoddi yn frwdfrydig yn y plentyn gyda phenderfyniad a gwytnwch. Bydd disgwyl i chi fynychu hyfforddiant, cyfarfodydd a’r gallu i gludo'r plentyn i’r ysgol, sesiynau therapi ac i weithgareddau. Bydd disgwyl i chi gadw cofnodion manwl i fonitro unrhyw welliannau yn ymddygiad y plentyn. O bosib mae’r plant wedi cael eu symud i sawl lleoliad, wedi cael problemau mewn addysg a chyfnodau o waharddiadau. Ein nod yw gwella lles ac addysg y plentyn a rhoi sefydlogrwydd iddyn nhw.
Byddwch angen:
Trwydded yrru ac yswiriant car cyfredol
Dim plant o dan 16 oed yn eich cartref
1 ystafell wely sbâr
Dim cyflogaeth arall*
2 flynedd o brofiad o weithio gyda phlant/pobl ifanc neu faethu
Dim cyfrifoldebau gofalu eraill (hy wyrion ac wyresau)
Taliad:
Byddwch yn derbyn chwydd-daliad o £461 yr wythnos yn ogystal â’r lwfans maethu i dalu am y costau gofalu am y plentyn, am gyfnod y lleoliad.
* Mae rolau gofalwr maeth (seibiant) ar gael hefyd, lle mae gan y gofalwr gyflogaeth arall sydd ddim yn effeithio'n sylweddol ar eu hargaeledd.
Anfon pecyn gwybodaeth i mi