Swyddi Gwag - Gweithiwr Cymdeithasol – Maethu

English
  1. Gweithiwr Cymdeithasol – Maethu (parhaol) x 3

  2. Cymhorthydd Gwasanaethau Plant – Maethu (parhaol) 

 

 

Gweithiwr Cymdeithasol – Maethu (parhaol)

  • - Gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso £28,672-£31,346 
  • - Gweithiwr Cymdeithasol Lefel 3 £32,234-£34,728
  • - 31-39 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys 8 Gŵyl y Banc)
  • - Byddwch chi’n seiliedig yn Chapel Street, y Fflint, gan weithio ar draws Sir y Fflint a’r ardal gyfagos

 

team slider

Newydd gymhwyso? Ydych chi’n gyffrous ac yn barod i fod yn weithiwr cymdeithasol? Beth am ymuno â thîm cefnogol a fydd yn eich arwain chi yn eich dyddiau cyntaf wrth i chi droi eich dysgu yn arfer. Mae pob un o’r 16 aelod o’n tîm maethu yn aelodau parhaol o staff. Bydd gennych chi fentor yn y tîm i’ch cefnogi chi, a fydd â nifer o flynyddoedd o brofiad yn yr awdurdod lleol.

Beth mae’r rôl yn ei olygu?

Bydd eich rôl yn cefnogi gofalwyr maeth sy’n byw yn yr ardal leol. Mae’r mwyafrif o’n tîm maethu yn byw yn Sir y Fflint hefyd ac mae ganddynt berthynas wych â’r gofalwyr maen nhw’n eu cefnogi. Bydd disgwyl i chi asesu, hyfforddi a chefnogi gofalwyr maeth ac adolygu’r ffordd y maen nhw’n gofalu am ein plant. Fel yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu model cefnogaeth teulu Mockingbird wrth weithio gyda gofalwyr maeth, rydym yn awyddus i chi gefnogi’r ffordd arloesol hon o weithio a rhannu’r canlyniadau gwych rydym yn eu gweld eisoes ar gyfer plant.

Sut gallaf i ddatblygu fy sgiliau?

Trwy ymuno â Sir y Fflint, gallwch ddatblygu eich sgiliau trwy Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus, gyda chyfleoedd i ddatblygu i rolau uwch mewn amrywiaeth eang o dimau gwaith cymdeithasol. Wrth weithio gyda’n therapyddion, fel rhan o’n model cefnogaeth Mockingbird, byddwch chi’n dysgu technegau rhianta therapiwtig i ddatblygu eich sgiliau wrth gefnogi gofalwyr maeth.

Pa oriau fydda i’n eu gweithio?

Bydd eich rôl yn dilyn patrwm 9-5 gan mwyaf, ond bydd angen i chi drefnu rhai apwyntiadau gyda’r nos gyda gofalwyr maeth sy’n gweithio yn ystod y dydd. Gallwch hawlio amser yn ôl trwy ein cynllun oriau hyblyg. Mae ein rota ar ddyletswydd yn rhannu’r dasg lleoliadau ar draws tîm mawr. Mae’r mwyafrif o’n tîm maethu yn gweithio llawn amser (37 awr) ond mae hyblygrwydd yn y rôl i weithio’n rhan amser. Mae trefniadau gweithio hyblyg wedi bod ar waith ar draws Sir y Fflint ers sawl blwyddyn. 

A oes modd i mi sgwrsio â’r tîm?

Cysylltwch i gael sgwrs gydag aelod o’r tîm maethu. Dysgwch sut beth yw gweithio ym maes maethu yn Sir y Fflint. Hyd yn oed os nad ydych wedi cymhwyso eto, cysylltwch â ni.

 

“Byddwn i’n argymell Sir y Fflint yn fawr. Mae fy mhrofiad cyfan wedi bod yn wych o’r dechrau. Mae pawb wedi bod yn gyfeillgar iawn ac yn awyddus i’m helpu i ddysgu. Nid wyf wedi teimlo fel rhywun newydd sy’n gofyn cwestiynau. Mae’r tîm rheoli wedi bod ar gael. Mae bob amser wedi bod yn deg, mae modd i mi gymryd amser i ffwrdd os bydda i’n gweithio oriau ychwanegol” Myfyriwr

 

“Mae Sir y Fflint, fel awdurdod lleol, yn wych. Mae cefnogaeth arbennig ar gael. Mae gennym grŵp cefnogaeth a grŵp Whatsapp gyda staff eraill sydd newydd gymhwyso ac mae’n help gwybod bod rhywun arall yn yr un sefyllfa â chi. Mae’r hyfforddiant wedi bod yn wych. Mae bod â mentor yn y tîm wedi bod yn help mawr. Rydych chi’n teimlo’n gyfforddus wrth ofyn y cwestiynau bach gwirion, heb orfod holi aelodau uwch o staff sydd â phethau eraill i’w gwneud.” Gweithiwr cymdeithasol newydd gymhwyso 

Hysbyseb Swydd

Swydd-ddisgrifiad a Manylion am yr Unigolyn

Gwnewch gais yma

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: : 30/06/2021

 

 

 

Cymhorthydd Gwasanaethau Plant – Maethu (parhaol) 

  • - £23,541.00 i £25,991.00 Llawn Amser. 
  • - Mae manteision gweithio i Gyngor Sir y Fflint yn cynnwys 31-39 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc)
  • - Byddwch yn gweithio yn Chapel Street, Y Fflint ac yn cwmpasu Sir y Fflint a’r ardal gyfagos.


Beth yw’r oriau gwaith arferol?

Swydd 9 tan 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener yw hon yn bennaf ond bydd angen i chi fynychu rhai apwyntiadau gyda’r nos i gefnogi rhai teuluoedd sy’n gweithio yn ystod y dydd. Byddwch yn cefnogi ac yn ymweld â gofalwyr sy’n byw yn yr ardal leol yn bennaf. Gallwch hawlio amser yn ôl trwy’r cynllun oriau hyblyg.

Beth yw’r swydd?

Fel rhan o dîm maethu'r Cyngor, byddwch yn cefnogi teuluoedd maethu cyffredinol a theuluoedd maethu “person cysylltiedig”, er mwyn eu galluogi yn eu tro i gynorthwyo’r plentyn i deimlo'n ddiogel ac i ffynnu a bod yn hapus.

Beth yw person cysylltiedig?

Mae Personau Cysylltiedig yn dod o bob cefndir.  Termau eraill a ddefnyddir am hyn yw ‘gofal gan berthynas’ neu ‘ofalwyr sy’n deulu a ffrindiau’. Byddwch yn cefnogi brodyr sy’n gofalu am chwiorydd, ewythrod, teidiau a modrybedd.  Yn aml maent yn cyrraedd y system faethu pan fo argyfwng yn eu teulu ehangach. Nid ydynt wedi dod i faethu gyda’r un safbwynt nac wedi gwneud y penderfyniad i fod yn ofalwr maeth. Maen nhw wedi gorfod ymateb yn gyflym i newyddion anodd yn y teulu ac wedi gwirfoddoli i ofalu am blentyn y maent yn ei adnabod. Bydd y swydd yn cynnwys cydweithio’n agos gyda’r teulu estynedig a rhieni fel uned deuluol gyfan. Mae hon yn agwedd ar y swydd sy’n heriol ac yn llawn boddhad lle byddwch yn datrys problemau sy’n unigryw i bob teulu ac yn helpu i gydbwyso’r gwahanol hetiau y mae gofyn i ofalwyr sy’n bersonau cysylltiedig eu gwisgo. Byddwch yn cefnogi gofalwyr gyda’r heriau a wynebir gan ofalwyr sy'n bersonau cysylltiedig, gan gynnwys ffyddlondeb i'r teulu, deinameg y teulu a byw eu bywyd teuluol o dan yr ymbarél maethu.

Beth sy’n ddisgwyliedig ohonoch chi?

Byddwch yn rhan o dîm maethu mawr, sy’n rhannu’r dasg o ganfod lleoliadau maethu i blant ar rota ddyletswydd. Byddwch yn meithrin perthynas dda gyda phob gofalwr a’r holl wahanol dimau a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’r teulu. Byddwch hefyd yn dod â grwpiau bach o ofalwyr at ei gilydd ar gyfer hyfforddiant, grwpiau cymorth a boreau coffi. Trwy gyflwyno gofalwyr i deuluoedd lleol eraill sydd mewn sefyllfa debyg, byddwch yn helpu i sicrhau nad ydynt yn teimlo ar eu pennau eu hunain. 

Hysbyseb Swydd

Swydd-ddisgrifiad a Manylion am yr Unigolyn

Gwnewch gais yma

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 06/07/2021

Anfon pecyn gwybodaeth i mi
Back to Top